Gyda’r sefyllfa o ran y Coronafeirws yn parhau i fynd rhagddi, dyma’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Gwasanaethau Gwastraff a ddarperir gan Gyngor Sir Ceredigion.

Casgliadau Gwydr wrth Ymyl y Ffordd: Er mwyn cefnogi ein timau casglu gwastraff yn ystod y cyfnod heriol hwn, gofynnir yn garedig i drigolion beidio â chyflwyno jariau a photeli gwydr i’w casglu os ydynt yn gallu storio eu gwydr am y tro. Gwneir y cais hwn gyda’r bwriad o leihau’r pwysau ar y tîm casglu gwastraff a helpu ymdrechion i gadw’r gwasanaethau casglu gwastraff bagiau duon, gwastraff bwyd a bagiau ailgylchu clir yn ogystal â Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP). Os nad oes gan drigolion le i gadw eu jariau a’u poteli gwydr, byddant yn gallu parhau i gyflwyno eu bocs gwydr ar eu diwrnod casglu gwydr dynodedig.

Helpwch i Ddiogelu ein Staff: Rydym wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith er mwyn diogelu ein staff yn ystod y cyfnod hwn. Gallwch helpu drwy wneud y canlynol:

• Rhoi eich gwastraff personol, megis hancesi papur a chadachau glanhau tafladwy yn eich bag du a chlymu’r bag.
• Clymu bag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff bag du yn ystod y cyfnod hwn.
• Dim ond cyflwyno gwastraff cartref y mae gwir angen i chi gael gwared arno yn ystod y cyfnod hwn; rydym yn gwybod ei bod hi’n demtasiwn mawr i ddefnyddio’r amser hwn i gael cliriad mawr, ond cofiwch feddwl am ein criwiau casglu gwastraff sy’n gweithio’n galed i sicrhau bod casgliadau yn parhau i gael eu cynnal, nid nawr yw’r amser i ychwanegu at eu llwyth gwaith.
• Os ydych yn hunanynysu oherwydd eich bod yn amau bod gennych Covid-19 neu oherwydd eich bod wedi cael cadarnhad o hynny, peidiwch â rhoi gwastraff personol (megis hancesi papur neu gadachau glanhau tafladwy) allan i’w gasglu am o leiaf 3 diwrnod. Er enghraifft, os ydych chi wedi llenwi/clymu bag ar ddydd Llun ac mae eich gwastraff i fod i gael ei gasglu fore dydd Iau, gellir rhoi’r bag hwnnw allan i’w gasglu ar fore dydd Iau. Fodd bynnag, os ydych chi wedi llenwi/clymu bag ar ddydd Llun ac mae eich casgliad ar ddydd Mercher, byddai angen i chi gadw’r bag hwnnw tan eich diwrnod casglu ar yr wythnos ganlynol. Dyma’r cyngor gan y llywodraeth a’i nod yw atal y feirws rhag cael ei drosglwyddo i eraill.

Sachau Ailgylchu Clir a Leinwyr Cadi Bwyd

Mae cyflenwadau o fagiau ailgylchu clir a leinwyr cadi bwyd wedi cael eu dosbarthu i amrywiol leoliadau yng Ngheredigion. Defnyddiwch y rhain yn gynnil a chymerwch yr hyn sydd ei angen arnoch yn unig. Dylid ond ymweld â’r safleoedd hyn pan fo hynny’n angenrheidiol ac yn rhan o siwrnai hanfodol arall. Dylid dilyn protocolau cadw pellter cymdeithasol yn llym.

Mannau casglu Bagiau Ailgylchu Clir a Leiniwyr Cadi Bwyd (yn amodol ar argaeledd):
• Tu allan i Swyddfeydd y Cyngor ym Mhenmorfa a Neuadd y Sir, Aberaeron
• Tu allan i Swyddfeydd y Cyngor yng Nghanolfan Rheidol, Aberystwyth
• Llyfrgell Llanbedr Pont Steffan
• Llyfrgell Aberteifi

Mae Safleoedd Gwastraff Cartref yn parhau i fod ar gau, ac mae Casgliadau Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd wedi’u hatal am y tro.

Diolch yn fawr iawn i chi - trigolion Ceredigion: Mae ein timau casglu gwastraff yn ddiolchgar iawn am y nifer fawr o negeseuon o ddiolch a chefnogaeth y maent yn eu derbyn. Yn rhan o Caru Ceredigion, gallwn barhau i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod ein gwastraff yn cael ei drin yn y ffordd orau bosib yn ystod y cyfnod anodd hwn. Parhewch i wneud y peth iawn gyda’ch gwastraff!

Cofiwch, gallwch wirio dyddiad eich casgliad gwastraff gan ddefnyddio’r adnodd chwilio Cod Post ar wefan y Cyngor, www.bit.ly/ChwilioCodPost, lle gellir hefyd lawrlwytho’r calendrau casglu gwastraff newydd ar gyfer 2020-2022.

03/04/2020