Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi rhoi darpariaeth gofal plant ar waith ar gyfer staff hanfodol o ddydd Llun 23 Mawrth 2020 ac mae wedi bod yn derbyn ceisiadau drwy gydol heddiw (dydd Gwener 20 Mawrth). Mae'r Cyngor wedi diffinio pwy y mae'n eu hystyried yn weithwyr hanfodol yn ystod y cam hwn o'r epidemig. Cyfyngir y rhain i staff rheng flaen, gan gynnwys gweithwyr y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau golau glas, gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau gofal, gweithwyr mewn cartrefi gofal a gofal cartref yn y sir. Mae hyn wedi galluogi'r Cyngor i sefydlu proses gofrestru drefnus ar gyfer gofal plant.

Y prynhawn yma cawsom ddatganiad gweinidogol gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys rhestr lawer ehangach o weithwyr allweddol a fyddai'n gymwys i gael gofal plant. Ar yr adeg hon, nid yw'r Cyngor mewn sefyllfa i ddarparu gofal plant ar gyfer yr holl gategorïau o weithwyr sy'n cael eu cynnwys ar restr Llywodraeth Cymru. O ganlyniad, cyfyngir ar ofal plant i'r rheini sydd wedi cofrestru erbyn 5pm heddiw sy'n bodloni'r meini prawf a nodir gan y Cyngor. Bydd y Cyngor yn parhau i adolygu'r meini prawf cymhwysedd dros yr wythnosau nesaf wrth i'r argyfwng ddatblygu.

Blaenoriaeth glir y Cyngor yw gweithredu'n gyfrifol gyda'r nod o gefnogi strategaeth sylfaenol Llywodraeth San Steffan o bellhau cymdeithasol yn unol â chyngor gweithwyr iechyd cyhoeddus proffesiynol. Mae'r cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i gau'r holl ysgolion erbyn yr 20fed o Fawrth, 2020 wedi atgyfnerthu'r brys am ymbellhau cymdeithasol. Mae'r Cyngor o'r farn y byddai caniatáu mynediad i ofal plant i'r ystod lawn o weithwyr allweddol yn ystod y cam hwn yn gwrthdaro â'r strategaeth hon.

20/03/2020