Eleni bydd Côr Cardi-Gân yn dathlu ei benblwydd yn 20 oed. Bydd y côr yn cofnodi’r achlysur gyda blwyddyn o ddathliadau gan gychwyn â chyngerdd mawreddog yn Theatr Felinfach ar Nos Sadwrn, 28 Medi am 7:30yh yng nghwmni Tra Bo Dau, sef Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies.

Sefydlwyd y côr cymysg ym Medi 1999 ar gyfer oedolion ifanc yng nghanolbarth sir Geredigion, gan gyfarfod yn wythnosol yn y Gwndwn, Theatr Felinfach. Sylfaenydd ac arweinydd y côr am yr wyth mlynedd gyntaf oedd Rhian Dafydd. Mae amryw o arweinyddion a chyfeilyddion wedi bod ynghlwm â’r côr tra bu Rhian yn cael seibiant i fagu teulu, ond bellach mae nôl wrth y llyw. Y cyfeilyddion presennol yw Wyn Maskell a Gillian Hearne.

Erbyn hyn, mae’r aelodau, os nad mor ifanc, yn sicr yn ifanc eu hysbryd. Mae Cardi-Gân yn cefnogi elusen wahanol yn flynyddol ers ei sefydlu ac yn canu mewn cyngherddau a digwyddiadau o bob math ar hyd y sir a thu hwnt. Bydd elw’r cyngerdd ynghyd â’r arian sydd wedi ei godi eleni yn cael ei rannu rhwng dwy elusen sy’n agos iawn at galonnau nifer o aelodau’r côr, sef Tir Dewi a RABI Cymru.

Mae croeso bob amser i aelodau newydd ac yn dilyn y cyngerdd dathlu byddwn yn anelu tuag at gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020, felly dewch i ymuno â ni.

Mae tocynnau’r gyngerdd ar gael o Swyddfa Docynnau Theatr Felinfach ar 01570 470697 neu ar-lein drwy ymweld â theatrfelinfach.cymru.

Pris y tocynnau yn £15 i oedolion, £14 i bensiynwyr a £5 i fyfyrwyr a phlant.

05/08/2019