Ar nos Sadwrn, 28 Medi cynhelir Cyngerdd Dathlu Côr Cardi-Gân yn 20 oed yng nghwmni eu gwesteion Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies neu Tra Bo Dau fel y’i hadnabyddir.

Mae’r tocynnau wedi hen werthu allan ers canol mis Awst, ond mae’n werth i unrhyw un sy’n chwilio am docyn sicrhau bod eu henwau ar y rhestr aros yn y Theatr, rhag ofn daw rhai ar gael ar y funud olaf!

Mae Cardi-Gân yn cefnogi elusen wahanol yn flynyddol ers ei sefydlu. Rhai o’r elusennau sydd wedi elwa o’u hymgyrchoedd dros y blynyddoedd yw Ymchwil Cancr Cymru, Clefyd y Galon, Canolfan y Môr - Ysgol Gyfun Aberaeron, Beiciau Gwaed Cymru a’r Clefyd Colorectal i enwi ond rhai. Rydym wedi llwyddo i godi sawl mil dros y blynyddoedd a’r ddwy elusen rydym yn eu cefnogi eleni yw RABI Cymru a Tir Dewi. 

Elusen amaethyddol sy'n weithredol o fewn rhanbarthau Cymru a Lloegr ac sy’n newid bywydau teuluoedd er gwell yw’r RABI. Mae’r elusen yn cynnig cefnogaeth ariannol gyfrinachol i ffermwyr o bob oed sy’n wynebu caledi. Mae pob achos yn wahanol ac mae'r gefnogaeth a gynigir wedi'i theilwra i amgylchiadau unigol.

Bob blwyddyn mae elusen yr R.A.B.I. yn dosbarthu tua £2 filiwn mewn grantiau ac yn helpu rhyw 2,000 o unigolion a theuluoedd. Daw mwyafrif yr incwm o ddigwyddiadau codi arian, rhoddion gan unigolion, busnesau, grwpiau cymunedol a'r pwyllgorau sir gwirfoddol, yn ogystal ag o roddion mewn ewyllysiau a grantiau gan ymddiriedolaethau elusennol. 

Ffurfiwyd Tir Dewi mewn ymateb i angen cynyddol a difrifol i helpu ffermwyr Gorllewin Cymru yn ystod cyfnodau anodd. Cytunodd y Parch Canon Eileen Davies a'r Esgob Wyn (bellach wedi ymddeol) bod yn rhaid cynnig rhyw fath o help llaw a chafodd Eileen y dasg o sefydlu Tir Dewi gyda llinell gymorth, gwasanaeth gwrando a gwasanaeth cyfeirio. Cafwyd cyllid hael o’r Eglwys yng Nghymru a Chronfa Cefn Gwlad Tywysog Cymru. Lansiwyd y gwasanaeth yn wreiddiol yn ystod haf 2015 ac, ers hynny, mae wedi helpu tua 50 o ffermwyr a'u teuluoedd a oedd, mewn un ffordd neu'r llall ar bwynt argyfwng. Mae’r prif ffocws ar dair sir - Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Mae gan yr elusen rwydwaith gref o arbenigwyr ar draws agweddau amrywiol ffermio sy’n gallu gweithredu fel eiriolwyr, cynnig cefnogaeth i gyfathrebu a mynychu cyfarfodydd gyda chyflenwyr, cwsmeriaid, banciau, cwmnïau cyllid neu gynghorwyr. Nod Tir Dewi yw bod o gymorth i weld y ffordd orau ymlaen a chynghori a chefnogi i gymryd y camau cywir i gyrraedd yno.

Mae Côr Cardi-Gân yn cwrdd bob Nos Fercher yn Y Gwndwn ar safle Theatr Felinfach am 7:45yh. Mae croeso bob amser i aelodau newydd a ‘does dim amser gwell na’r presennol i ymuno.

Ar Nos Fercher, 9 Hydref am 7:30yh cynhelir cyfarfod yn Neuadd Felinfach i weld faint o ddiddordeb sydd i greu Côr Cymysg i oedolion gogyfer â chystadlu yn Eisteddfod Ceredigion 2020. Mae nifer o’r aelodau yn awyddus i sefydlu côr mwy yn Nyffryn Aeron a’r ardal ehangach i gystadlu yng nghystadleuaeth y Côr Adloniant. Dewch yn unigolion, yn bartïon, yn gorau. Does dim angen profiad, dim ond egni a brwdfrydedd, felly dewch i ymuno â ni.

Cynhelir Cyngerdd Dathlu 20 Côr Cardi-Gân yng nghwmni Tra Bo Dau ar Nos Sadwrn, 28 Medi am 7:30yh. Cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau i ychwanegu’ch enw at y rhestr aros ar 01570 470697.

19/09/2019