Yn ystod tymor yr hydref, mae Aelodau Clwb Ieuenctid Aberaeron wedi bod yn brysur yn trefnu gweithgareddau cymunedol a hyrwyddo'r clwb ieuenctid i drigolion y dref.

Mae Aelodau’r Clwb Ieuenctid wedi trefnu diwrnodau casglu sbwriel a glanhau'r traeth, fel rhan o'u prosiect amgylcheddol a dinasyddiaeth; trefnu sesiynau ymlacio fel rhan o'u prosiect lles; paratoi prydau iach, gan ddefnyddio ffrwythau o'r ardd gymunedol newydd; ac ymweld â chartref gofal Min Y Môr i roi un o'u murlun graffiti Cymru 2050 sy'n darlunio treftadaeth Aberaeron.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Miles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion a chyfrifoldeb am Wasanaethau Dysgu a Dysgu Gydol Oes, “Mae'n bleser gweld pobl ifanc yn chwarae rhan weithredol wrth helpu eu cymuned. Mae Clwb Ieuenctid Aberaeron yn enghraifft wych o bobl ifanc yn teimlo'n hyderus ac yn rymus i wneud pethau cadarnhaol sy'n codi ymwybyddiaeth a helpu pobl eraill. Rwy'n llongyfarch y gwirfoddolwyr ifanc a'r holl aelodau am eu gwaith caled ac yn dymuno llwyddiant iddynt gyda'u prosiectau yn y dyfodol.”

Hefyd, agorodd y clwb ieuenctid ei ddrysau i grŵp Taith a Sgwrs Aberaeron, a drefnwyd gan y Cynghorydd Elizabeth Evans. Bu trigolion Aberaeron yn ymweld â'r ganolfan ieuenctid a dysgu mwy am y gwahanol brosiectau, megis yr Ardd Gymunedol a ddatblygwyd yn ddiweddar.

Dywedodd y Cynghorydd Elizabeth Evans, Cyngor Tref Aberaeron, “Rwy'n croesawu'r ffaith bod Clwb Ieuenctid Aberaeron wedi dod yn rhan o fywyd cymunedol Aberaeron, trwy gefnogi grwpiau a gweithgareddau amrywiol a chroesawu grwpiau i’w Clwb Ieuenctid a'u Gardd Gymunedol, y maent yn falch ohonynt. Mae’r Clwb Ieuenctid wedi bod mor llwyddiannus wrth godi proffil pobl ifanc yn Aberaeron fel rhan fywiog ac annatod o'n cymuned, ac rydym yn gwerthfawrogi hynny yn fawr.”

Mae'r holl weithgareddau a darpariaethau yn y clwb ieuenctid yn cael eu cynllunio a'u paratoi yn bennaf gan Wirfoddolwyr Ifanc. Maent bellach yn y broses o drefnu digwyddiadau codi arian ar gyfer elusennau iechyd meddwl lleol. Bydd Thomas Evans a Ashlie Day, dau wirfoddolwyr ifanc, wedi trefnu Noson Cwis yng Nghlwb Hwylio Aberaeron ar ddydd Iau 4 Hydref, 2018. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at eu prosiect codi arian.

Dywedodd Thomas a Ashlie, Gwirfoddolwyr Ifanc yng Nghlwb Ieuenctid Aberaeron, “Rydym yn falch iawn o'r clwb ieuenctid. Mae'n le gwych i bobl ifanc ddod, cymdeithasu a chael cefnogaeth. Mae gennym weithgareddau gwahanol yn digwydd bob wythnos, sy'n helpu'r aelodau i ddatblygu a gwella. Rydym yn teimlo ei bod hi'n bwysig rhoi rhywbeth yn ôl i'n cymuned a threfnu digwyddiadau sy'n dod â phobl at ei gilydd.”

Am fwy o wybodaeth, neu i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch draw i’r tudalennau Facebook, Twitter neu Instagram ar @GICeredigionYS, wefan www.giceredigionys.co.uk/hafan neu cysylltwch â’r Tîm ar youth@ceredigion.gov.uk.

04/10/2018