Ar 23 Mawrth, bydd ysgolion, clybiau chwaraeon a Chyngor Sir Ceredigion yn cael y cyfle i droi’n goch i dangos eu cefnogaeth i’r athletwyr Cymraeg a fydd yn cynrychioli Cymru yn Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia ym mis Ebrill gyda diwrnod ‘Cymru Coch’.

Trefnir gweithgareddau mewn ysgolion ar draws Ceredigion yn yr wythnosau sydd yn arwain at Gemau’r Gymanwlad i roi cyfle i blant ymarfer rhai o’r sgiliau a ddefnyddir gan yr athletwyr yn y gemau.

Anwen Butten o Glwb Bowlio Llambed yw un o athletwyr Ceredigion sydd wedi cael ei dewis ac yn hedfan i Awstralia yn fuan i gystadlu yn y gemau. Bydd Anwen, sydd wedi ennill dwy fedal efydd mewn Gemau Gymanwlad blaenorol, yn ymuno a tîm o fowlwyr o ledled Cymru i gynrhychioli Tîm Cymru.

Bydd Coral Kennerly o Aberystwyth hefyd yn cynrychioli Tîm Cymru yn y gemau eleni. Mae Coral ar hyn o bryd yn bencampwr merched Cymru a Phrydain mewn Saethu.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb am Wasanaethau Ffordd o Fyw, “Mae ‘Cymry Coch’ yn gyfle i bawb ar draws y sir i ddangos eu cefnogaeth i’r athletwyr lleol a fydd yn cynrychioli Cymru yn Gemau’r Gymanwlad yn Awstralia. Mae Cyngor Sir Ceredigion yn hynod o falch o gyflawniadau’r athletwyr talentog yma o Geredigion ac rydym yn dymuno’r gorau i Anwen, Coral a gweddill yr athletwyr o ledled Cymru yn y gemau sy’n nesáu; maent yn ysbrydoliaeth i bawb. Felly dewch i ni gyd ddangos ein cefnogaeth i’n hathletwyr lleol a gwisgo coch ar 23 Mawrth.”

Chwaraeon Cymru sy’n rhedeg ymgyrch ‘Cymry Coch’ i gynnig y cyfle i'r genedl uno, dathlu, a dangos sut rydym yn cefnogi talent chwaraeon Cymru, p'un ai ar lefel llawr gwlad neu elitaidd.

Ychwanegodd Sarah Powell, Prif Weithredwr Chwaraeon Cymru, “Rydym yn gwybod pa mor dda ydym ni fel cefnogwyr chwaraeon a ‘Cymry Coch’ yw ein cyfle i uno a chefnogi’r athletwyr Cymraeg sy’n dod o bob cwr o’r wlad. Mae hwn yn gyfle i ni gyd i ddangos Tîm Cymru y byddwn yn eu cefnogi wrth iddynt wisgo eu crysau coch a rhoi o’u gorau yn y Gemau. Rydym eisiau gweld pawb yn ymuno gyda’i gilydd a gwisgo coch ar 23 Mawrth. Dewch i ni ddangos beth mae chwaraeon yn golygu i ni ac uno ein cenedl falch â hoffter o chwaraeon.”

Ewch i wefan Chwaraeon Cymru i ddarganfod mwy am sut gallwch gymryd rhan: http://www.sport.wales/cymrycoch

 

15/03/2018