Gwahoddir sefydliadau cymunedol i wneud cais am hyd at £2,000 i ddatblygu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau ynghyd.

Mae Cynllun Grantiau Bach Tîm Cydlyniant Cymunedol Canolbarth a De-orllewin Cymru yn annog prosiectau a all helpu pobl i fwynhau ac i ddathlu byw yn eu cymunedau a chryfhau eu hymdeimlad o berthyn.

Gallai hyn olygu helpu pobl i ddeall ac i fwynhau diwylliannau a thraddodiadau ei gilydd. Gallai gynnwys ffyrdd newydd o weithio, datblygu deunyddiau sy'n helpu i ddod â phobl at ei gilydd a hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant.

Dylid canolbwyntio'n benodol ar brosiectau sy'n ystyried y meysydd canlynol:

  • Digwyddiadau coffáu/cefnogi, er enghraifft Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, Mis Hanes Pobl Dduon, Mis Hanes LGBT, Diwrnod Rhyngwladol Anableddau.
  • Digwyddiadau i ddod â phobl o wahanol gymunedau ynghyd, er enghraifft pobl o wahanol gefndiroedd yn coginio gyda'i gilydd, grwpiau cerddoriaeth gymunedol ar gyfer pobl ifanc o wahanol genhedloedd, dinasyddiaeth weithredol, digwyddiadau rhyng-ffydd. 
  • Prosiectau sy'n ymgysylltu â chymunedau lleiafrifol, sy'n cynnwys grwpiau amrywiol wrth ddatblygu mentrau i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn seiliedig ar anghenion y gymuned honno, y gymuned ehangach, a lleihau tensiynau.

I gael pecyn ymgeisio, cysylltwch â Sarah Bowen, y Swyddog Cydlyniant Cymunedol ar gyfer Ceredigion: slbowen@sirgar.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer y ceisiadau yw 31 Awst 2021.

29/07/2021