I ddathlu Wythnos Genedlaethol Gofalwyr 2021, a gynhaliwyd rhwng 7 a 13 Mehefin, bu Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws maes Iechyd a'r trydydd sector i drefnu amrywiaeth o weithgareddau am ddim i gefnogi Gofalwyr di-dâl. Cynhaliwyd rhai gweithgareddau ar y cyd â phartneriaid yn Sir Benfro a Sir Gâr.

Mae Wythnos Gofalwyr yn ddigwyddiad blynyddol i godi ymwybyddiaeth o ofalu, tynnu sylw at yr heriau y mae Gofalwyr di-dâl yn eu hwynebu, a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'w teuluoedd a'u cymunedau yn y sir.

Roedd y gweithgareddau'n seiliedig ar adborth a roddwyd gan Ofalwyr di-dâl i'r Uned Gofalwyr yn ystod yr wyth mis diwethaf. Roedd y sesiynau'n cynnwys diwrnod encilio ar-lein (ioga, ymwybyddiaeth ofalgar ac ati), technegau cysgu ac ymlacio, paned a sgwrs y Fforwm Gofalwyr, sesiynau magu hyder i ofalwyr sydd eisiau dychwelyd i'r gwaith, a chyfle i ddysgu mwy am fyd natur a rhoi cynnig ar grefft collage - i gyd o gysur eu cartref eu hunain, wedi'i gynllunio gyda Gofalwyr di-dâl mewn golwg.

Diolch i Gofalwyr Ceredigion Carers (GCC), Cerebra, Mind Aberystwyth, Holistic Yoga Care Wales, Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, Gofalwyr Cymru a Chwarae Teg am weithio gyda’r Uned Gofalwyr i gynnal y digwyddiadau.

Yn ystod Wythnos Gofalwyr, lansiodd Cyngor Sir Ceredigion Bolisi Gofalwyr newydd hefyd. Nod y polisi yw cefnogi aelodau staff sydd ar hyn o bryd yn cydbwyso eu swyddi gyda rôl ofalu gartref. Mae'r awdurdod lleol wedi ymrwymo i gefnogi a chadw aelodau o'r gweithlu sy’n gofalu, ac mae'r Polisi Gofalwyr yn helpu i wneud hyn.

Mae cydbwyso gwaith a gofal yn heriol ac yn gostus. Mae ‘22% o Ofalwyr yng Nghymru naill ai wedi lleihau eu horiau gweithio neu wedi rhoi gorau i’w gwaith yn gyfan gwbl er mwyn gofalu ers dechrau’r pandemig’ (Caring Behind Closed Doors Six Months On – Carers UK)

Mae cefnogi Gofalwyr i aros mewn gwaith yn golygu nad yw Gofalwyr ar eu colled o ran adeiladu pensiwn gwell ar gyfer yn ddiweddarach yn eu bywydau, a'u gallu i gynnal ansawdd bywyd da y tu allan i'w rôl gofalu. Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae cyflogwyr hefyd yn elwa o gadw gweithwyr profiadol, medrus yn hytrach na recriwtio ac ailhyfforddi staff.

Y Cynghorydd Catherine Hughes yw’r Eiriolwr dros Ofalwyr. Dywedodd: “Mae'n wych gweld cyfleoedd i Ofalwyr di-dâl yn parhau yn y sir. Mae Covid wedi bod yn anodd i bawb, ond yn enwedig i Ofalwyr di-dâl. Mae adroddiad gan Carers UK a ryddhawyd yn ystod Wythnos Gofalwyr yn dweud 'Nododd tri chwarter o Ofalwyr (74%) eu bod wedi ymlâdd o ganlyniad i ofalu yn ystod y pandemig, a dywedodd mwy na thraean (35%) eu bod yn teimlo na allant reoli eu rôl ofalu ddi-dâl’.

Dyna pam mae cymorth i Ofalwyr yng Ngheredigion yn bwysicach nag erioed. Fe wnaeth digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Gofalwyr helpu Gofalwyr i deimlo nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.”

Roedd Tîm Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch hefyd ac wedi codi ymwybyddiaeth o’r hyn y gallant ei gynnig i gefnogi gofalwyr, megis helpu i dalu am ofalwr fel bod modd i ofalwyr di-dâl gael hyfforddiant i hybu eu cyfleoedd ym myd gwaith.

Wedi colli Wythnos Gofalwyr? Mae sesiwn collage natur ar-lein (22/06) gyda GCC 03330 143377 a diwrnod lles rhithwir gyda Gofalwyr Cymru 07933 218261 (29/06) yn dal i groesawu Gofalwyr di-dâl am ddim. Ffoniwch nhw i archebu lle.

Os ydych yn gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu na all ymdopi ar ei ben ei hun yn sgil salwch, anabledd, problemau iechyd meddwl neu fod yn gaeth i rywbeth, rydych yn Ofalwr di-dâl. Efallai bod Wythnos Gofalwyr wedi mynd heibio, ond mae gofalu yn parhau 365 diwrnod y flwyddyn. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael i Ofalwyr di-dâl yng Ngheredigion trwy gydol y flwyddyn, cysylltwch â: Uned Gofalwyr Cyngor Sir Ceredigion: unedgofalwyr@ceredigion.gov.uk / 01970 633564.

18/06/2021