Mae’r rhai sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim yn cael cefnogaeth yn ystod crisis y Coronafeirws.
O hyn ymlaen, bydd dau opsiwn o dderbyn Prydau Ysgol Am Ddim, sef taleb archfarchnad Tesco neu daliad ariannol yn syth i mewn i’r banc.
Mae’r ddau opsiwn yn derbyn yr un gwerth ariannol, sef £39 y pythefnos, i bob plentyn.
Bydd hefyd taliad yn cael ei wneud dros y Pasg. Ni fyddai teuluoedd gyda phlant sy’n derbyn Prydau Ysgol am Ddim fel arfer yn cael cefnogaeth dros wyliau’r Pasg ond teimlwn bod angen i ni fel Cyngor wneud pob ymdrech i helpu gymaint y gallwn ni mewn amgylchiadau mor ansicr.
Nid oes yn rhaid i deuluoedd gysylltu â’r Cyngor. Mi fydd pob teulu sy’n deilwng yn derbyn ebost. Mi fydd manylion yn yr ebost gyda chyfarwyddiadau.
02/04/2020