Daeth cyfreithiau brys ynglŷn â’r coronafeirws i rym yng Nghymru wythnos ddiwethaf – cyfreithiau syml ond pwysig i siopau.

Yn ogystal â’r gofynion sydd mewn grym ledled Cymru a Lloegr, bellach mae’n rhaid i’r busnesau yng Nghymru sydd â’r hawl i aros ar agor hefyd “gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau ym mangre’r busnes.” Hefyd mae’n rhaid i fusnesau sicrhau bod niferoedd y bobl sy’n cael mynediad i safle’r busnes yn ddigon bach i gynnal y pellter angenrheidiol hwnnw, a chymryd pob mesur rhesymol i sicrhau bod y sawl sy’n aros y tu allan hefyd yn cynnal y pellter o ddau fetr rhyngddynt ac eraill.

Gwnaed y cyfreithiau newydd hyn gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i’r coronafeirws a’r ffaith fod yr haint yn lledaenu yng Nghymru.  Rhaid adolygu’r angen am y gofynion newydd hyn bob 21 diwrnod a byddant ond mewn grym tra bydd y cyfnod argyfwng hwn yn para.

Os na fydd busnesau yn cymryd y mesurau sy’n ofynnol, mae’n bosib y bydd eu perchnogion a’u rheolwyr yn cael eu herlyn ac yn derbyn dirwyon diderfyn.  Hefyd mae modd ymdrin ag achosion o fynd yn groes i’r gyfraith drwy roi hysbysiad cosb benodedig a hyd yn oed arestio’r sawl sy’n torri’r gyfraith os oes angen. Disgwylir y bydd busnesau’n cymryd camau gwirfoddol i sicrhau eu bod yn bodloni’r gofynion newydd.

Mae’r rhain yn fesurau caled ond pwysig y mynnir bod busnesau yn eu dilyn mewn ymateb i fygythiad difrifol y coronafeirws. Mae ymateb y gymuned wedi bod yn gadarnhaol ac yn ysgubol.

Mae’r cyfreithiau newydd yn rhan o ffordd newydd, dros dro, o fyw sy’n angenrheidiol i ddiogelu’r rheiny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i effeithiau’r coronafeirws.  Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud popeth y gallwn yn rhesymol i helpu busnesau i gydymffurfio â’r gofynion hyn.

Dyma bosteri i fusnesau lawrlwytho, printio ac arddangos yn eu adeilad. Mae'r posteri yn ddwyieithog gyda opsiwn o gefndir gwyn neu tywyll.  

01/04/2020