Ar ddydd Llun 9 Medi, llofnodwyd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion (BGC) y 'Fy Siarter ' anableddau dysgu Gorllewin Cymru. Wrth wneud hyn, dyma'r BGC cyntaf i ymuno â'r Siarter. Ysgrifennwyd ‘Fy Siarter’ gan bobl sydd ag anableddau dysgu yng ngorllewin Cymru.

Mae'r Siarter yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael mwy o gyfleoedd mewn bywyd, mwy o ddewis a chael rhywun i wrando arnynt. Mae hefyd yn dweud bod pobl sydd ag anableddau dysgu am gael eu trin fel oedolion, i gael urddas a pharch ac i'w gwybodaeth gael ei chadw'n breifat.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion a Chadeirydd BGC Ceredigion, Ellen ap Gwynn: "Nid yn unig yr ydym yn arwyddo'r Siarter heddiw ond hefyd yn gwneud ymrwymiad clir i weithredu ar yr addewid hwn a sicrhau bod y meysydd o fewn y Siarter yn cael eu parchu a'u dilyn gan y sefydliadau sy'n eistedd o fewn BGC Ceredigion. Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol i gymuned gydlynus – mae hawl gan bawb i gael eu trin yn gyfartal. Fel Cadeirydd y BGC a'r Hyrwyddwr Cydraddoldeb ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion, rwy’n falch bod y Cyngor Sir wedi eisoes arwyddo lan ac hoffwn weld cynifer o sefydliadau, busnesau ac unigolion yn ymuno â Fy Siarter i ddangos cefnogaeth unedig i bobl sydd ag anableddau dysgu.”

Datblygwyd y Siarter gan bobl ag anableddau dysgu o bob rhan o Geredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Lansiwyd gan Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn Sioe Sir Benfro eleni.

Ewch i https://www.ldcharter.com/fy-siarter/ i gael rhagor o wybodaeth am 'Fy Siarter'.

Ewch i http://www.ceredigion.gov.uk/eich-cyngor/partneriaethau/bwrdd-gwasanaethau-cyhoeddus-ceredigion/ i gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.

 

18/09/2019