Ymunodd Janet Gibson o Aberteifi â grŵp Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru ym mis Mai 2021 pan gafodd y cyfyngiadau eu llacio yng Ngheredigion. Fel aelod, mae'n dweud wrthym sut mae cerdded wedi bod o fudd i’w lles corfforol a’i lles meddyliol.

Pryd a pham wnaethoch chi ymuno â'r grŵp?

Ymunais â'r Teithiau Cerdded Lles ym mis Mai a chymryd rhan yn y daith gerdded gyntaf un. Ymunais oherwydd fy mod yn edrych ymlaen gymaint at ailgysylltu ag wynebau cyfarwydd a gwneud ymarfer corff gyda'n gilydd yn yr awyr iach ar ôl misoedd o ddosbarthiadau ar-lein.

Sut mae cerdded yn gwneud i chi deimlo a sut ydych chi'n teimlo wedyn?

Mae cerdded yn gwneud i mi deimlo cymaint yn fwy heini. Mae’n fuddiol yn gorfforol ac yn feddyliol. Pan fyddaf yn cyrraedd adref ar ôl fy nhaith gerdded, byddaf yn rhoi’r tegell ymlaen ac yn gwirio fy FitBit i weld pa mor dda yr wyf wedi’i wneud. Roeddwn ar ben fy nigon o weld faint o gamau a munudau yr oeddwn i wedi'u cwblhau. Roedd yn deimlad calonogol iawn.

Beth ydych chi’n ei ennill o fod yn rhan o’r grŵp Cerdded er Budd Lles?

I mi’n bersonol rwyf wrth fy modd yn cerdded mewn grŵp. Rwy'n mwynhau'r cyfeillgarwch a'r gefnogaeth. Y buddion rwy'n eu hennill yw'r ymarfer corff, y lles o ganlyniad i fwynhau taith gerdded hyfryd, a'r gwelliant yn fy nghryfder a’m cyflymder. Mae aelodau ac arweinwyr y grŵp yn groesawgar iawn. Roedd dod at ein gilydd unwaith eto drwy ein nod cyffredin o gadw'n actif yn brofiad eithaf emosiynol i ni i gyd.

Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried ymuno?

Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried ymuno i ddod yn eu hesgidiau cerdded cyfforddus a chwrdd â phobl eraill o'r un anian. Rydym i gyd yn rhannu nod cyffredin o wella ein ffitrwydd, ond mwynhau cwmni eraill hefyd. Mae pawb wedi treulio llawer gormod o amser ar wahân oddi wrth ei gilydd, ond mae'r grŵp cerdded hwn yn hyrwyddo lles, a pha ffordd well o roi hwb i’ch lles na mynd am dro hyfryd yng nghefn gwlad.

Mae Cerdded er Budd Lles Gorllewin Cymru yn cynnig teithiau cerdded am ddim mewn grŵp cyfeillgar yn eich cymuned leol. Mae'r teithiau cerdded yn amrywio rhwng 30 a 60 munud ac mae pob aelod yn cydymffurfio â chanllawiau covid-19.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan Cerdded er Lles Gorllewin Cymru: www.westwaleswalkingforwellbeing.org.uk neu cysylltwch â Dawn Forster

Cydlynydd Prosiect Ceredigion ar dawn.forster@Ceredigion.gov.uk / 07866 985753.

25/08/2021