Dywedodd Barry Rees MBE, Cyfarwyddwr Corfforaethol “Rwy’n falch iawn o dderbyn yr anrhydedd hon i gydnabod y gwaith tîm gwych sydd wedi cyfrannu at frwydr Ceredigion yn erbyn coronafeirws. Byddai'n llawer mwy priodol i hyn fod yn anrhydedd tîm yn hytrach nag un unigol, felly rwyf am gydnabod gwaith llawer o gydweithwyr gwerthfawr sy'n gweithio i Gyngor Sir Ceredigion sydd wedi parhau i ddarparu arweinyddiaeth, cefnogaeth, ysbrydoliaeth, dygnedd a menter barhaus drwy gydol yr argyfwng hwn. Fe wnaeth hyn i gyd ein galluogi i roi fy syniad cychwynnol o system olrhain cyswllt lleol ar waith mewn llai nag wythnos yng nghamau cynnar y pandemig.

Hoffwn hefyd gydnabod y gwaith partneriaeth agos sydd wedi datblygu gyda phartneriaid y Cyngor mewn perthynas â coronafeirws, yn enwedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ein hawdurdodau lleol cyfagos ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ogystal â chyflwyno olrhain cyswllt lleol yn gynnar iawn, mae'r Cyngor wedi rhoi nifer o fesurau ar waith mewn ymgais i gadw trigolion Ceredigion mor ddiogel â phosibl a derbyniaf fod rhai o'r rhain wedi bod yn llai na phoblogaidd ymhlith rhai. Fodd bynnag, rydym yn parhau i gael ein gyrru gan ein nod i amddiffyn ein preswylwyr, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed ac rydym yn hynod ddiolchgar i'r mwyafrif helaeth yng Ngheredigion sydd wedi aberthu er mwyn cydymffurfio â phob canllaw a chyngor.

Dros y pythefnos diwethaf, rydym wedi gweld y nifer uchaf o achosion coronafeirws yng Ngheredigion ers i'r pandemig ddechrau, sy'n ein hatgoffa nad yw'r swydd wedi'i gwneud eto ac rydym yn debygol o gael gaeaf anodd iawn o'n blaenau. Byddwn yn apelio ar bawb i barhau i ddilyn canllawiau coronafeirws yn agos fel y gallwn barhau i amddiffyn pobl nes y gallwn fynd yn ôl yn ddiogel ac yn raddol at rywbeth sy'n agos at normalrwydd.”

10/10/2020