Atgoffir bariau, caffis a bwytai yng Ngheredigion nad yw rheolau’r cyfnod clo yn caniatáu i bobl o wahanol aelwydydd estynedig neu ‘swigod cymdeithasol’ gwrdd â’i gilydd er mwyn yfed neu fwyta y tu mewn i’w safleoedd.

Gall pobl o wahanol swigod cymdeithasol gwrdd â’i gilydd yn yr awyr agored, ond dylent gadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru o ran cadw pellter cymdeithasol ac aros 2 fetr ar wahân. Mae’n ofynnol i fusnesau barhau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod pobl o wahanol swigod cymdeithasol yn cynnal pellter o 2 fetr, gan gynnwys yn yr awyr agored.

Dim ond am nifer cyfyngedig o resymau y mae’r gyfraith yn caniatáu i bobl o wahanol swigod cymdeithasol gwrdd dan do i wneud rhywbeth gyda’i gilydd. Mae’r rhesymau hyn yn cynnwys gwaith, derbyn cymorth meddygol, gofal plant, a mynychu priodasau, angladdau, neu fannau addoli.

Nid yw’r cyfyngiadau o ran cwrdd dan do yn berthnasol i aelodau o’r un aelwyd, eu gofalwyr, ac aelwydydd estynedig sy’n rhan o’u ‘swigen gymdeithasol’.

Mae dyletswydd gyfreithiol ar fusnesau o hyd i ddarparu gwybodaeth i’r rheini ar eu safle ynghylch sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi creu arwyddion i’w defnyddio dan do ac yn yr awyr agored y gall busnesau eu defnyddio i atgoffa cwsmeriaid o’r cyfyngiadau sy’n parhau o ran cwrdd ag eraill dan do. Gwahoddir bariau, caffis a bwytai i ddefnyddio’r arwyddion hyn neu eu hysbysiadau tebyg eu hunain.

Mae busnesau Ceredigion wedi bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y sir yn aros yn ddiogel wrth i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio. Fodd bynnag, gellir cyflwyno hysbysiad cau neu hysbysiad gwella i safleoedd os yw swyddogion gorfodi o’r farn bod hynny’n angenrheidiol ac yn gymesur er mwyn lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

18/08/2020