Mae ‘Gwneud Sblash’ yn arddangosfa newydd yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth ac mae’n bwrw golwg ar weithgareddau glan môr gan gynnwys yr ymdrochi a’r gwyliau haf gogoneddus sy’n nodweddu’r wlad hon.

Mentrwch i mewn i'r amgueddfa a gweld rhai o’r pethau sy’n cuddio yn ei pherfeddion. Mae staff yr amgueddfa wedi bod yn twrio’i storfeydd ac wedi dod ar draws gwisgoedd nofio rhyfeddol a gafodd eu gwau. Hefyd, cewch weld y blwmers a’r bicinis oedd ein neiniau, teidiau a’n rhieni yn eu gwisgo wrth gael blas ar yr haul a’r heli. Yn dilyn cais yr amgueddfa am ddelweddau o bobl ar wyliau glan môr, daeth nifer i’r fei a chafodd rhai ohonynt eu cynnwys yn yr arddangosfa hefyd. Mae’r arddangosfa, sy’n rhedeg o 14 Gorffennaf i 13 Hydref, yn cydnabod thema 2018 Croeso Cymru, ‘Blwyddyn y Môr’.

Mae Andrea DeRome, Swyddog Mynediad i Gasgliadau’r Amgueddfa, yn amlinellu peth o hanes y bobl oedd yn ymweld â glan môr, “Mae Ceredigion wedi denu ymwelwyr o bob cwr a chornel ers iddi gael ei hadnabod gyntaf fel Brighton Cymru yn y 1790au.”

Wrth edrych yn ôl ar hanes cynnar y rhai a ymwelodd ag Aberystwyth, canfu Andrea mai traeth y gogledd, rhwng y pier a'r bandstand, oedd un o'r mannau mwyaf poblogaidd ar gyfer ymdrochi, hyd yn oed cyn i’r adeiladau hynny gael eu codi.

Parhaodd Andrea, “Erbyn 1807, roedd pedwar peiriant ymdrochi wedi'u cofnodi ar draeth y gogledd yn Aberystwyth. Adeiladau o bren oedd y rhain, fel siediau ar olwynion, ac fe’u defnyddid gan bobl cyn iddyn nhw fynd i ymdrochi. Erbyn canol y 1820au, roedd yna un ar hugain o'r peiriannau hyn. Cafwyd cwynion y byddai'r cyhoedd yn syllu ar yr ymdrochwyr ond doedd hynny ddim yn poeni rhai o’r nofwyr ryw lawer. Roedd adroddiadau fod rhai pobl leol, dynion a merched, dan ddylanwad trwm y môr a’u bod yn teithio o'r wlad i'r arfordir er mwyn plymio’n noeth i'r tonnau.”

Erbyn i'r trên gyrraedd yr arfordir yn y 1860au, roedd y syniad o ymdrochi yn y môr a chymryd gwyliau i ffwrdd o'r gwaith a'r cartref, yn boblogaidd iawn. Credwyd hefyd fod ymdrochi yn y môr yn llesol i’ch iechyd. Bu’r syniad o ‘gymryd y dyfroedd’ yn rhan o holl brofiad y twrist ers tro byd. Mae llawer o'r hen bosteri rheilffordd yn hysbysebu ymweliad â glan môr fel rhywbeth o fudd i'ch iechyd. Honnai un o’r posteri hynny fod ‘aer iachus’ a ‘haul cyfeillgar’ i’w cael yn Aberystwyth.

Mae’r pleser a gawn o fod ar lan y môr yn parhau yr un mor gryf, pan fo’r haul yn gwenu, mae ymdrochwyr anturus yn plymio o'r lanfa bren ac mae’r tonnau yn denu syrffwyr o'r Borth i Aber-porth.

Mae pobl ar lan y môr eisiau chwerthin a chael hwyl ac mae cynnal sioe bypedau ar y promenâd yn ffordd ddi-ail o ddifyrru'r teulu cyfan; roedd Pwnsh a Jwdi’n boblogaidd am ganrifoedd ac mae gan Amgueddfa Ceredigion gasgliad lliwgar i gyd-fynd â'r arddangosfa hwyliog hon.

Mae nifer o sioeau a gweithdai pypedau ar gael i ymwelwyr â'r amgueddfa. Dewch draw i fwynhau holl hwyl a helynt y dihiryn drygionus ac i glywed ei hoff ymadrodd, ‘dyna'r ffordd i wneud e!’

P'un a yw'n well gennych chi drochi yn y dyfroedd bas neu syrffio'r tonnau, rhodio o dan barasol neu gael lliw haul, mae ‘Gwneud Sblash’ yn sicr o gynnig rhywbeth at eich dant.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r arddangosfa, yr amgueddfa, y sioeau a'r gweithdai, codwch un o’n taflenni neu ewch at y wefan: www.amgueddfaceredigion.cymru neu ffoniwch 01970 633088.

02/07/2018