Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd eleni, fe wnaeth Ar Log, grŵp gwerin broffesiynol cyntaf Cymru, ryddhau albwm newydd sef Ar Log VII ac maent yn gwneud eu ffordd i Theatr Felinfach!

Dwy flynedd yn ôl, yn 2016, roedd y grŵp yn dathlu 40 mlynedd o deithio mewn un-ar-hugain o wledydd dros dri chyfandir. Ym mis Mawrth 2017, aethant i’r stiwdio i gychwyn recordio Ar Log VII. Lansiwyd yr albwm yn y Tŷ Gwerin ar bnawn Sul cyntaf yr Eisteddfod - union 42 o flynyddoedd ers sefydlu’r grŵp. Dyma eu halbwm cyntaf ers 22 o flynyddoedd.

I hyrwyddo’r albwm newydd, mae’r grŵp wedi trefnu taith o gwmpas Cymru gyda’r gwestai arbennig, Dewi Pws. Bydd y daith yn agor yn Theatr Felinfach ar Nos Wener, 07 Medi am 7:30yh cyn mynd ymlaen i Bwllheli, Caerdydd, Dinas Mawddwy a Llanrwst.

Ar Log oedd y grŵp proffesiynol cyntaf i ddod â cherddoriaeth werin i sylw cynulleidfaoedd amrywiol ar lefel rhyngwladol. Ffurfiwyd Ar Log yn arbennig i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Geltaidd yn Lorient, Llydaw yn ystod wythnos gyntaf Awst 1976 ac fe’u hanogwyd gan y Dubliners i barhau ar ôl yr ŵyl.

Mae’r grŵp wedi teithio a pherfformio ar draws Ynysoedd Prydain, Ewrop, Gogledd a De America gan hyrwyddo Cymru a’i cherddoriaeth. Dros y blynyddoedd, mae’r grŵp wedi rhannu llwyfan gydag enwau mawr y byd gwerin fel Alan Stivell a Dan Ar Bras o Lydaw, Mary Black, De Dannan, Dubliners, Y Brodyr Clancy, Y Furies a Clannad o Iwerddon, Battlefield Band, Boys of the Lough, Silly Wizard a Run Rig o’r Alban a nifer o artistiaid ‘canu byd’ o bedwar ban byd. 42 o flynyddoedd yn ddiweddarach, maent yn dal i deithio ac yn rhyddhau eu hunfed albwm ar ddeg!

Mae perfformiad Ar Log a Dewi Pws yn Theatr Felinfach Nos Wener, 07 Medi am 7:30yh gyda thocynnau yn £12/£11/£8. Am fwy o wybodaeth a sicrhau eich tocyn, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu ewch ar-lein i theatrfelinfach.cymru.

15/08/2018