Rhagwelir gwyntoedd cryfion, tonnau mawr a llanw uchel ddydd Iau 20 Awst tan ddydd Gwener 21 Awst.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi rhybuddion llifogydd ar gyfer ardaloedd y llanw yn Aberystwyth ac Aberteifi, ac mae rhybudd llifogydd ar gyfer arfordir Ceredigion.

Gallai llwch dŵr môr a thonnau fod yn beryglus a gallant gynnwys malurion. Gofynnir i drigolion ac ymwelwyr fod yn wyliadwrus, yn ofalus, a chadw draw o ardaloedd arfordirol yn ystod y cyfnodau o lanw uchel, a bod yn ofalus ar draethau, promenadau, llwybrau arfordirol, ffyrdd a thir isel lle mae llifogydd arfordirol yn bosibl.

  • Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: gov.uk
  • Os ydych yn pryderu am lifogydd ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188 ac ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf: naturalresources.wales 

Mae criwiau ychwanegol wrth gefn er mwyn galluogi’r Cyngor i ymateb i unrhyw alwadau mewn perthynas ag unrhyw effeithiau o ganlyniad i’r storm.

Bydd diweddariadau pellach ar y dudalen hon. 

 

20/08/2020