Mae pobl yng Ngheredigion yn cael eu hannog i ddilyn y canllawiau sy’n berthnasol i’r coronafeirws yn llym, a hynny wrth i nifer yr achosion o’r haint gynyddu yng Ngheredigion.

Rhaid cadw pellter cymdeithasol bob amser er mwyn diogelu eich hunain, eich teulu a’ch ffrindiau, a’r gymuned.

Mae rheolau newydd, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dod i rym heddiw, 14 Medi 2020, ac maent yn cynnwys:

  • Caniatáu i 6 person yn unig gwrdd y tu mewn (nid yw hyn yn cynnwys plant 11 oed ac iau). Mae’n rhaid i’r unigolion hynny fod yn perthyn i gartref estynedig.
  • Gwneud gwisgo gorchuddion wyneb yn hanfodol mewn mannau cyhoeddus dan do, er enghraifft siopau.
  • Atgoffa pobl i weithio gartref, lle bo’n bosibl.
  • Rhoi pwerau gorfodi newydd i Awdurdodau Lleol.

Ni fydd unrhyw newid i’r rheolau cyfredol o ran creu cartrefi estynedig unigryw yng Nghymru, na chwaith i’r rheolau ynghylch cwrdd yn yr awyr agored.

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol o 2m bob amser a golchi eich dwylo yn rheolaidd.

Mae prif symptomau’r coronafeirws yn cynnwys:

  • tymheredd uchel.
  • peswch newydd, parhaus.
  • newid neu golli eich synnwyr o arogl neu flas.

Os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau uchod, sicrhewch eich bod chi a’ch cartref uniongyrchol yn hunanynysu yn syth. Ewch i wefan Llywodraeth Cymru i drefnu prawf, neu ffoniwch 119. Rhaid i unrhyw un sydd â symptomau hunanynysu am 10 diwrnod o'r adeg y dechreuodd ei symptomau. Rhaid i unrhyw un sy'n byw yn yr un cartref â chi ac sydd heb symptomau hunanynysu am 14 diwrnod ar ôl i'r person cyntaf yn eich cartref ddechrau cael symptomau. Os bydd canlyniad eich prawf yn dod nôl yn bositif, bydd y tîm Olrhain Cysylltiadau yn cysylltu â chi i roi canllawiau pellach ar y camau nesaf.

Mae’r holl wybodaeth a’r cyngor diweddaraf ynghylch y coronafeirws ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Gyda’n gilydd gallwn gadw Ceredigion yn ddiogel.

14/09/2020