Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 23 Ebrill 2021, bydd darpariaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ailddechrau yn raddol yng Ngheredigion.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ailddechrau darpariaeth gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Mae hyn yn cynnwys ailagor y cyfleusterau hamdden a weithredir gan y Cyngor, y Caeau Pob Tywydd (ATPs) a’r Meysydd Chwarae. 

Mae’r amserlen yn ddibynnol ar beidio â chael cynnydd sylweddol yn y nifer o achosion yn y sir.

  • Cerdded er Lles – 17 Mai
  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff Awyr Agored; Defnydd sefydliadau cymunedol o Gyfleusterau Awyr Agored gan gynnwys Caeau Pob Tywydd (Llambed a Synod Inn) a Meysydd Chwarae – 28 Mai
  • Cyfleusterau Hamdden Dan Do; Canolfan Hamdden Aberaeron; Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan; Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan; gan gynnwys defnydd gan Sefydliadau Cymunedol – 05 Gorffennaf ymlaen.

Rydym yn cydnabod y gallai’r dyddiadau a ddarperir fod yn hwyrach na’r disgwyl. Fodd bynnag, maent wedi’u pennu er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i leihau’r risg o unrhyw gynnydd mewn achosion ac i wneud ein rhan yn adferiad ein sir o’r coronafeirws.

Mae’r dyddiadau hefyd yn sicrhau bod staff a roddwyd ar secondiad i gefnogi gwasanaethau eraill y Cyngor yn ystod y pandemig yn gallu dychwelyd i’w swyddi o fewn Gwasanaeth y Canolfannau Lles.

Mae Canolfan Hamdden Plascrug wedi’i drosglwyddo yn ôl i’r awdurdod lleol oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Fodd bynnag, mae cryn dipyn o waith datgomisiynu ac ail-adfer yn angenrheidiol cyn iddi allu gweithredu fel cyfleuster hamdden. Nid oes dyddiad ar gyfer ei hailagor ar hyn o bryd.   

Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn Ganolfan Brechu Torfol ar hyn o bryd a bydd yn parhau felly cyhyd ag y bo’i hangen ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.    

Bydd gwybodaeth ar gael ar wefan Ceredigion Actif, www.ceredigionactif.org.uk a thudalennau Facebook, Twitter ac Instagram.

Diolch yn fawr i holl ddefnyddwyr y cyfleusterau yma am ddeall y sefyllfa yn ystod yr amserau heriol hyn. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i’n cyfleusterau a’n sesiynau gweithgaredd.

05/05/2021