Cyfrannodd dau aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion yn ddiweddar i gyfarfod o Bwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Sir Ceredigion.

Roedd Thomas Kendall o Goleg Ceredigion a Huw Jones o CFfI Ceredigion yn eistedd mewn ar gyfarfod ac yn gwneud sylwadau am drafodaethau yn ystod y cyfarfod. Rhoesant eu barn ar drafodaethau am Wasanaeth Cerdd Ceredigion a’r ymgynghoriad ar ddatblygu neu adleoli Theatr Felinfach.

Dyma’r cyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd lle bydd Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion yn cefnogi aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion i eistedd mewn ar bwyllgorau craffu.

Caiff pobl ifanc sy’n eistedd mewn ar y pwyllgorau gyfle i rannu gwybodaeth gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion. Mae’r pwyllgorau yn rhoi’r cyfle i bobl ifanc roi gwybod i’r pwyllgorau craffu am y gwaith a wneir gan Gyngor Ieuenctid Ceredigion. Bydd y swyddog cyfranogiad pobl ifanc yn cefnogi’r cynrychiolwyr ifanc yn ystod cyfarfodydd pwyllgor.

Y Cynghorydd Endaf Edwards yw Cadeirydd Pwyllgor Craffu Cymunedau sy’n Dysgu. Dywedodd: “Siaradodd Thomas a Huw yn aeddfed iawn gan gynnig mewnwelediadau gwirioneddol i’r cyfarfod.”

“Mae’n hanfodol bwysig bod lleisiau pobl ifanc nid yn unig yn cael eu clywed ond hefyd yn cael eu hystyried ar lefel strategol lle mae penderfyniadau’n cael eu gwneud. Gall pobl ifanc ddod â syniadau ffres a phersbectif arall i’r broses hon. Mae rhoi’r cyfle i bobl ifanc eistedd mewn ar bwyllgorau craffu rheolaidd yn dangos ymhellach ymrwymiad y cyngor i gytundeb y Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.”

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn gytundeb rhyngwladol sy’n rhwymo yn gyfreithiol ac sy’n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, beth bynnag eu hil, crefydd neu eu galluoedd.

Dywedodd Huw, aelod o Gyngor Ieuenctid Ceredigion, “Roedd cael y cyfle i eistedd ar fy mhwyllgor craffu cyntaf fel cynrychiolydd ieuenctid yn brofiad cadarnhaol iawn. Llwyddais i ddysgu mwy am broses gwneud penderfyniadau’r cyngor a deall y materion a ddaeth i’r agenda. Bydd fy rôl yn cynnwys rhoi adborth i’m cyfoedion ar y Cyngor Ieuenctid ynghylch yr hyn yr wyf wedi’i ddysgu hyd yma.”

Mae gan y Cyngor bum pwyllgor trosolwg a chraffu sy’n craffu ar faterion y cyngor ac yn paratoi argymhellion ar gyfer y Cabinet. Bydd y Cabinet wedyn yn gwneud penderfyniadau ar sail yr argymhellion hynny oni bai fod y cyngor llawn yn penderfynu ar y mater.

02/08/2019