Mae newid goleuadau stryd i ddefnyddio bylbiau Deuodau Allyrru Golau (LED) wedi arbed dros £1m dros 10 mlynedd yng Ngheredigion. Yn 2017/18, arbedwyd 985 tunnell o garbon rhag cael ei ryddhau i’r amgylchedd o gymharu ag allyriadau golau stryd yn 2007/08.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi arwyddo addewid i newid goleuadau stryd i fylbiau LED erbyn 2022. Mae’r Cyngor wedi arwyddo’r addewid i’r elusen, 10:10 Climate Action. Bydd pob golau stryd yn cael eu newid i fylbiau LED, ar wahân i rai lampau stryd treftadaethol.

Dywedodd hyrwyddwr y cyngor ar gyfer cynaliadwyedd, y Cynghorydd Alun Williams, “Mae Ceredigion eisoes wedi gwneud arbedion cost a charbon trwy newid ein goleuadau stryd i LED. Mae’r rhaglen dwy flwyddyn gyfredol o newidiadau pellach fod cyflawni arbedion egni o 68% ers 2007/08 yn ogystal â lleihau diffygion a chostau cynnal a chadw. Bydd y Cyngor yn parhau i flaenoriaethu mesurau rheoli carbon i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd newidiol ac i arbed adnoddau cyngor.”

Dywedodd Neil Jones, ymgyrchydd yn 10:10 Climate Action, “Mae Cyngor Ceredigion yn haeddu dim ond canmoliaeth am gymryd yr addewid i oleuo eu strydoedd gyda bylbiau LED. Yn y cyfnod ariannol anodd yma, bydd yr arian y bydd yn cael ei arbed yn gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl yn yr ardal. Ac mae’r potensial i dorri defnydd carbon yn gwneud hyn yn benderfyniad hawdd.”

Mae bylbiau LED wedi dangos arbedion egni o hyd at 50-70% o gymharu â bylbiau arferol. Mae bylbiau LED yn gallu para am dros 20 mlynedd, ble mae bylbiau arferol ond yn para am 4-6 o flynyddoedd.

Mae newid goleuadau stryd i ddefnyddiol bylbiau LED yn helpu’r Cyngor i gyrraedd ei flaenoriaeth gorfforaethol o hyrwyddo cydnerthedd amgylcheddol.

28/11/2018