Gall preswylwyr yng Ngheredigion nawr gael mynediad at ddangosfwrdd personol llawn gwybodaeth yn dilyn lansiad Fy Nghyfrif.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi lansio gwasanaeth cyfrif cwsmeriaid ar-lein newydd sbon ar gyfer preswylwyr gyda'r nod o sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn gyflym ac yn syml.

Gall preswylwyr ddefnyddio Fy Nghyfrif ar eu ffôn symudol, llechen ddigidol neu gyfrifiadur i wneud ymholiadau a dilyn amrywiaeth o wasanaethau'r Cyngor. 

Drwy gofrestru am Fy Nghyfrif, gallwch wneud y canlynol:

  • gwneud ymholiadau a gweld sut maen nhw’n datblygu
  • cofnodi unrhyw broblemau o ran priffyrdd fel tyllau yn y ffordd, canghennau sy’n tyfu drosodd neu oleuadau stryd
  • cofnodi unrhyw broblemau o ran hawliau tramwy cyhoeddus, er enghraifft camfa sydd wedi’i torri neu arwyddion sydd ar goll
  • gweld pryd bydd eich casgliad gwastraff nesaf
  • lawrlwytho copi o galendr casglu gwastraff ar gyfer 2024
  • gweld pwy yw eich Cynghorydd lleol
  • cofrestru i dderbyn cylchlythyrau ac ymgynghoriadau

Bydd llawer mwy o wasanaethau yn cael eu hychwanegu yn fuan, felly nawr yw'r amser perffaith i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif a chadw llygad ar y platfform am nodweddion pellach.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion sy'n gyfrifol am Wasanaethau Cwsmeriaid: “Mae Fy Nghyfrif wedi'i gynllunio i helpu bobol Ceredigion gael cymorth, gwybodaeth a’r newyddion diweddaraf am eu hardal. Wrth gwrs mi fydd llawer yn ffafrio gwasanaeth wyneb i wyneb neu dros y ffôn, a mi fydd yropsiynau hynny yn dal i fod ar gael.”

Mae cofrestru yn hawdd a dim ond ychydig funudau y mae'n ei gymryd. Dilynwch y ddolen hon i gofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif: www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/fy-nghyfrif/

29/02/2024