Ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i waith? A oes angen cymorth arnoch i ddatblygu sgiliau newydd?

Mae cymorth ar gael drwy gynllun Cymunedau am Waith+ a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Dyma sut y cynorthwyodd tîm lleol Ceredigion un preswylydd i drawsnewid ei fywyd.

Mae John (nid ei enw iawn) yn ddyn 31 mlwydd oed sy'n byw mewn llety a rennir yn Aberystwyth. Ar hyn o bryd mae'n destun Gorchymyn Prawf yn dilyn euogfarn ac mae wedi bod i mewn ac allan o'r system droseddwyr ers ei fod yn ifanc gyda nifer o rybuddion ac euogfarnau dros y 15 mlynedd diwethaf. Gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau ffurfiol ac nid yw wedi cael unrhyw gyflogaeth swyddogol. Daeth yn ddibynnol ar fudd-daliadau i ariannu ei gostau byw ac i dalu ffioedd llys. Er bod gan John blentyn, nid oes ganddo unrhyw hawliau ymweld ar hyn o bryd oherwydd ei euogfarn. Roedd yn ysu i drawsnewid ei fywyd a phrofi i'r llys y gall fod yn dad cyfrifol.

Dyna pryd y cysylltodd â thîm Cymunedau am Waith+ Cyngor Sir Ceredigion. Ar ôl yr apwyntiad wyneb yn wyneb cychwynnol, sylweddolodd John fod hwn yn gyfle iddo wneud newidiadau cadarnhaol i'w fywyd a symud ymlaen i ddyfodol mwy sicr. Llwyddodd y tîm i gael copi o'i dystysgrif geni gan nad oedd ganddo gerdyn adnabod (ID) ffurfiol o'r blaen. Yna dechreuodd y tîm ar y broses o archwilio cyfleoedd gwaith a fyddai'n addas i John. Roedd angen rhywbeth ymarferol arno ac roedd yn fodlon gweithio unrhyw oriau, gan gynnwys sifftiau nos. Oherwydd nad oedd ganddo unrhyw hanes cyflogaeth blaenorol, nid oedd ganddo unrhyw brofiad o gyfweliadau na ymwybyddiaeth o brosesau penodi ffurfiol, ond roedd swyddogion Cymunedau am Waith+ yn gallu ei arwain a'i gynghori drwy'r broses.

Yn dilyn hyn, cynigiwyd swydd i John fel gweithiwr sifft nos, yn amodol ar rai gwiriadau terfynol gan yr asiantaeth. Dechreuodd weithio drannoeth ac mae wedi bod yn gyflogedig yn llawn amser am y 2 fis diwethaf. Roedd y tîm hefyd yn gallu rhoi cymorth yn y gwaith iddo drwy ddarparu dillad ar gyfer ei swydd a bag cefn a bocs bwyd.

“Rwy’n teimlo’n dda i fod yn onest,” meddai John. “Rwyf eisiau helpu pobl yn fy sefyllfa i a chefnogi a rhoi cyngor yn y dyfodol i droseddwyr ifanc trwy siarad â nhw am droseddu a chyffuriau ac ati. Yn amlwg mae angen i mi brofi fy hun yn gyntaf. Rwy'n mynd trwy bethau personol, ond mae gwaith wedi helpu. Rydw i jyst eisiau cyflawni pethau a helpu. Mae gen i ddyheadau go iawn. Rydw i eisiau trosglwyddo'r hyn wnaethoch chi ei ddangos i mi a’r hyn wnaethoch fy helpu."

Ychwanegodd swyddog o’r tîm Cymunedau am Waith+: “Diolch i’r gyflogaeth hon, mae John yn dysgu pwysigrwydd trefn, strwythur a chyfrifoldeb ac yn mwynhau buddion incwm cyson. Diolch i'r incwm, roedd mewn sefyllfa lle'r oedd yn gallu prynu anrhegion Nadolig i'w blentyn. Mae wedi addasu i batrwm sifft gwaith nos yn dda, ac mae’r gwasanaeth prawf wedi bod yn gefnogol wrth addasu ei apwyntiadau gorchymyn i weddu i’w waith. Mae’n bwriadu cadw ffocws yn y gwaith ac yn y pendraw gweithio ei ffordd i fyny o fewn y tîm ac mae ar y llwybr iawn i brofi ei fod yn gallu newid ei fywyd.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae hon yn stori wych am sut mae cynllun wedi helpu unigolyn i adennill ei uchelgeisiau. Rwy’n falch iawn o weld enghreifftiau o’r fath, a chofiwch fod help ar gael i unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau, ennill cymwysterau neu gael cyflogaeth.”

Os ydych chi’n teimlo y gallech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, elwa o’r Cynllun Cymunedau am Waith+, cysylltwch â’ch tîm lleol yng Ngheredigion drwy anfon e-bost i TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.

24/01/2024