Croesawyd staff rhaglen Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion gan Amgueddfa Ceredigion dros y Nadolig ar gyfer taith dywys i ddysgwyr o gwmpas yr amgueddfa.

Mae’r teithiau tywys hyn yn rhan o fenter newydd a chyffrous gan yr amgueddfa yn eu darpariaeth i ddysgwyr Cymraeg.

Mynychwyd y digwyddiad gan fwy nag 20 aelod o staff ar 19 Rhagfyr 2023. Roedd cynrychiolaeth o blith holl lefelau dysgu’r rhaglen Cymraeg Gwaith yn bresennol, o ddechreuwyr pur i bobl sy’n astudio ar y lefelau uwch. Cawsant oll amser hyfryd, wedi’u tywys o gwmpas yr amrywiol arddangosfeydd yn grefftus gan dywysydd gwirfoddol profiadol yr amgueddfa, Barbara Roberts.

Wrth ystyried yr ymweliad, dywedodd Huw Owen, Swyddog Hyfforddi Cymraeg Gwaith Cyngor Sir Ceredigion: “Diolch o galon i Amgueddfa Ceredigion am ein croesawu ni ar gyfer ein dathliad Nadolig eleni. Mae teithiau Barbara yn ardderchog gan eu bod yn galluogi dysgwyr o bob lefel i ddod at ei gilydd i glywed a defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth. Mae hyn yn rhan hanfodol o daith iaith pawb. Daw’r teithiau tywys hyn â’r amgueddfa a’r iaith yn fyw.”

Gan drafod teithiau newydd Amgueddfa Ceredigion i ddysgwyr, a’r bartneriaeth gyda rhaglen Cymraeg Gwaith y Cyngor, dywedodd Amanda Partridge, y Swyddog Cyswllt Cymunedol: “Rydym wrth ein bodd ein bod ni’n gallu cynnig y teithiau a’r sgyrsiau Cymraeg hyn yn Amgueddfa Ceredigion. Mae mynychwyr y teithiau yn dweud bod dysgu rhywfaint o hanes Ceredigion yn y ffordd hyn wedi cynnig golwg newydd a diddorol iddynt ar eu sgiliau Cymraeg. Rydym yn ffodus dros ben bod gennym Barbara, sy’n arweinydd taith arbennig, ac yn arweinydd sgwrs Gymraeg brofiadol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Diwylliant: “Mae’r Amgueddfa yn llawn gwrthrychau sy’n gofnod o bob math o bobl fu’n byw a gweithio yng Ngheredigion dros y canrifoedd a mae yno arddangosfeydd celf hynod heb sôn am awyrgylch hyfryd felly mae’n le gwych i ymweld ag e fel grŵp neu ddosbarth gan bod yno pob math o drysorau i’w gweld a’u trafod. Mae yna groeso cynnes bob amser.”

Beth am archebu taith ar gyfer eich antur nesaf fel dosbarth neu grŵp sgwrs? Antur gyffrous ar gyfer 2024!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Amanda ar amanda.partridge@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970633088.

22/01/2024