Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd gwynt Ambr a fydd mewn grym o 18:00 dydd Sul 21 Ionawr tan 09:00 ddydd Llun 22, Ionawr 2024.
Mae hefyd rhybudd gwynt Melyn rhwng 12:00 dydd Sul 21 Ionawr tan 12:00 dydd Llun 22 Ionawr, 2024.
Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhagweld gwyntoedd a fydd yn aml yn cyrraedd 50-60mya, efallai 70 mya mewn rai lleoliadau ar adegau a 80mya mewn lleoliadau agored ar hyd yr arfordir ar adegau.
Cynghorir trigolion Ceredigion ac ymwelwyr i fod yn ddiogel a pheidio â gwneud teithiau diangen yn ystod y rhybuddion tywydd.
Atgoffir y cyhoedd i fod yn ofalus wrth deithio oherwydd gall y gwyntoedd arwain at goed yn disgyn a malurion ar briffyrdd. Gofynnir i’r cyhoedd hefyd fod yn wyliadwrus mewn perthynas â’r difrod posibl i adeiladau a strwythurau eraill, a allai arwain at deils a malurion eraill yn disgyn i ardaloedd cyhoeddus.
Gallai’r gwyntoedd hefyd arwain at dorri cysylltiadau pŵer gan effeithio ar wasanaethau’r Cyngor.
Ewch i wefan Y Swyddfa Dywydd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch sefyllfa’r tywydd: www.metoffice.gov.uk/
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach i'r sefyllfa yng Ngheredigion yn cael eu cyhoeddi yma.
19/01/2024