Bydd y ddraig goch yn chwifio’n uchel unwaith eto eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Yng Ngheredigion, mae nifer o ddigwyddiadau wedi’u trefnu i nodi Dydd Gŵyl Dewi, gan gynnwys gorymdeithiau, cyngherddau, eisteddfodau a llawer mwy. Beth am ymgymryd â her ‘Mas o Ma’: Crwydro Ceredigion’? Dyma fersiwn rithiol o’r ystafelloedd dianc, ac mae’n gyfle i ddysgu mwy am ardaloedd Ceredigion hefyd. Cyflwynwch eich atebion ar ffurflen FORMS: 'Mas o Ma': Crwydro Ceredigion

Yn ogystal â hyn, mae Cered: Menter Iaith Ceredigion wedi trefnu cystadleuaeth i addurno ffenestri siop yn nhrefi’r sir. Bydd hi werth chwilio am yr addurniadau hardd yma. Bydd Cyngor Tref Tregaron hefyd yn lansio gwobr newydd sbon i gydnabod cyfraniad gwirfoddol lleol yn ardal Tregaron.

Ac mae nifer o gyfleoedd ar gael i chi ymuno â’r gorymdeithiau sy’n cael eu trefnu ar hyd a lled y sir:

  • Aberaeron (i ddisgyblion Ysgol Gynradd Aberaeron yn unig) - 01 Mawrth 2024 am 09:30 o Ysgol Gynradd Aberaeron.
  • Aberteifi - 01 Mawrth 2024 am 09:45 o Faes Parcio’r Pwll Nofio.
  • Tregaron - 01 Mawrth 2024 am 13:15 o Ysgol Henry Richard.
  • Llanbedr Pont Steffan - 02 Mawrth 2024 am 11:00 o Gampws Hŷn Ysgol Bro Pedr.
  • Aberystwyth - 02 Mawrth 2024 am 13:00 ger cloc y dref.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy’n gyfrifol am Ddiwylliant: “Dydi’r Gymraeg ddim am un diwrnod yn unig ond mae’n braf cael un dydd sy’n rhoi sylw i’r Gymraeg ac i Gymreictod a gallwn ni yng Ngheredigion sicrhau bod yr iaith yn destun balchder a bod ein trigolion, boed yn siaradwyr rhugl neu’n siaradwyr newydd, yn ymfalchïo yn ein hiaith brydferth. Bydd yna rhyw weithgaredd ar y gweill i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yn eich ardal chi – felly ymunwch a mwynhewch. Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Ngheredigion a mae angen i ni ei defnyddio ymhob un sefyllfa posib a’i siarad yn uchel a balch.”

Wrth ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, cofiwn am eiriau ein nawddsant a ddywedodd "Gwnewch y pethau bychain mewn bywyd”, ac ymhyfrydwn fod ganddo gysylltiad agos â Cheredigion. Gallwch ddysgu llawer am hanes Dewi Sant yn y clip fideo yma: Dewi Sant, Cadw

 

26/02/2024