Mae cyfle ariannu newydd wedi'i lansio i gefnogi ymrwymiad y Cyngor i ddenu mwy o ddigwyddiadau rhyngwladol a chenedlaethol i Geredigion.

Mae Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi, CFfGDU ar gyfer Ceredigion yn rhan o gyfres eang o raglenni sy'n cael eu darparu yng Ngheredigion, a ariennir drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (CFfGDU). Mae twristiaeth yn sector economaidd sydd o bwysigrwydd hanfodol i Geredigion, sef y trydydd cyflogwr mwyaf yn y Sir ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y sector hwn a denu ymwelwyr newydd i'r ardal.

Mae CFfGDU 2022-2025 yn biler canolog ar agenda uchelgeisiol Llywodraeth y DU ar gyfer Ffyniant Bro ac yn elfen sylweddol o'i chefnogaeth i leoedd ledled y DU. Mae'n darparu tair blynedd o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol.

Bydd Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y Cardi yn canolbwyntio ar:

  • Denu ymwelwyr i'r Sir. Mae’n hanfodol bod ceisiadau yn dangos sut y bydd gan y digwyddiad fudd i’r Sir gyfan, yn ogystal â manteision rhanbarthol a chenedlaethol ehangach.
  • Cefnogi twf busnesau cysylltiedig (buddion busnes an-uniongyrchol) a datblygu swyddi sydd o werth uwch.
  • Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn sy'n annog pobl i ymweld â'r ardal leol a'i harchwilio. Rhaid i geisiadau ddangos sut y bydd y digwyddiad yn gwneud gwahaniaeth i unigolion, cymunedau a'r economi leol.
  • Cefnogaeth ar gyfer y celfyddydau lleol, treftadaeth ddiwylliannol a gweithgareddau creadigol.
  • Rhaid i ddigwyddiadau gefnogi uchelgeisiau ynghylch newid yn yr hinsawdd neu'r newid i economi werdd trwy gynaliadwyedd a lleihau gwastraff

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet Ceredigion sy'n gyfrifol am yr adran Economi ac Adfywio: “Mae'r cyllid hwn yn gyfle i adeiladu ar y digwyddiadau sydd eisoes wedi digwydd yn y Sir fel Lleisiau Eraill Aberteifi 2023 a digwyddiadau sy'n parhau i ddychwelyd i'r Sir fel Rali Ceredigion. Dylai busnesau, gwirfoddolwyr a sefydliadau yng Ngheredigion fanteisio ar y cyfle ac ystyried sut y gallent dyfu a datblygu digwyddiad uchelgeisiol, perthnasol a phriodol i'w gynnal yn y Sir yn y blynyddoedd i ddod."

Yr isafswm grant sydd ar gael yw £30,000 a’r uchafswm yw £100,000. Bydd pob dyfarniad grant yn amodol ar fodloni meini prawf y grant.

Er mwyn sicrhau bod eich prosiect yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr sydd â diddordeb ddarllen y nodiadau cyfarwyddyd yn ofalus ac anfon briff byr, gan amlinellu eich syniad (fformat pwynt bwled) a dadansoddiad o'r gwariant a’u anfon at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk cyn dechrau ar y ffurflen gais.

I gael fwy o wybodaeth am sut y gallwch gyflwyno cais ewch i: Cronfa Rhaglen Digwyddiadau Cynnal y - Cyngor Sir Ceredigion

13/03/2024