Ar Ddiwrnod y Llyfr 2024, lansiwyd llyfr newydd sydd wedi’i ysgrifennu a’i greu gan ddisgyblion cynradd Blwyddyn 2 Ceredigion a’r tair canolfan iaith y sir.

Lansiwyd y llyfr newydd ‘Bant â Ni gyda Seren a Sbarc’ yn Ysgol Gynradd Penrhyncoch ar ddydd Iau 07 Mawrth, gyda’r ysgolion a’r canolfannau eraill yn ymuno’n rhithiol.

Mae’r llyfr yn crynhoi saith stori gadwyn sy’n dilyn y prif gymeriadau wrth iddynt ymweld â gwahanol fannau o bwys yng Ngheredigion a dysgu popeth am hanes lleol, gan gwrdd â chymeriadau lliwgar a diddorol ar hyd y daith.

Yn llawn hiwmor, priod-ddulliau a dyfeisiau rhethregol, nod y prosiect oedd datblygu sgiliau ieithyddol y disgyblion, eu hyfedredd digidol a’u rhyngweithiad, tra hefyd yn dyfnhau eu hadnabyddiaeth o’u hardal leol, i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Mynychodd cyflwynydd teledu plant S4C, Meleri Williams, y lansiad i gyflwyno rhan o’r stori i’r disgyblion.

Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Mae’n wych gweld y plant ifanc yn cydweithio i greu rhywbeth sydd yn unigryw i Geredigion. Da iawn i bawb a gymerodd rhan.”

Mae’n bosib dod i hyd i’r llyfr yma: https://read.bookcreator.com/8DmRsdF51EXrbrbVPHe3EosTuFh1/xYYydgUWQcK3kBjeQukU8A

Bydd pob Ysgol yn derbyn y llyfr ar gopi papur yn ogystal â’r cyfle i ddarllen yr e-lyfr ar-lein.

Cewch ddarganfod mwy ar dudalen Facebook Cardi Iaith.

07/03/2024