Mae rhiant sengl o Geredigion wedi cael gwaith llawn amser drwy gymorth cynllun Cymunedau am Waith + Llywodraeth Cymru.

Roedd Eleanor Yates, rhiant sengl gyda dau o blant sy’n byw yng Ngheredigion yn chwilio am waith 30 awr a fyddai'n cyd-fynd â'i ffordd o fyw. Yn dilyn cais personol am gymorth ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd ei chyfeirio at Gymunedau am Waith+ (CFW+) drwy gymorth Cyngor Sir Ceredigion.

Cyfarfu Rachel Tuck, Mentor CFW + ag Eleanor i drafod opsiynau yn ogystal â diddordebau, a dyna pryd y darganfu fod Eleanor yn frwd dros ieithoedd a'i bod wedi astudio Rwseg fel gradd. Penderfynwyd y byddai CFW+ yn ariannu ei chwrs Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) lle gallai ddysgu o gartref yn hunangyflogedig neu weithio i fusnes/sefydliad.

Bu'r ddwy, Rachel ac Eleanor, yn ymchwilio ac yn gwneud ceisiadau am rolau amrywiol gan gynnwys y sector addysg o fewn y Cyngor. Yn dilyn cyfweliad llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, cynigiwyd swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel 1 i Eleanor a fyddai'n rhoi'r 30 awr o waith oedd hi’n chwilio amdano a'r gallu i ofalu am ei phlant.

Dechreuodd Eleanor weithio yn Ysgol Uwchradd Aberteifi yn ddiweddar. Dywedodd: "Ar ôl bod allan o waith am saith mlynedd, roedd y syniad o ddychwelyd i'r gwaith yn frawychus iawn, yn enwedig achos diffyg gwarchodwyr plant cofrestredig yn lleol. Fe wnaeth Rachel fy helpu i ddod o hyd i swyddi a fyddai'n gweithio orau i mi, yn enwedig y rhai o fewn y tymor ysgol, drwy helpu gyda’r broses ymgeisio ar-lein, fy niweddaru'n rheolaidd wrth i gyfleoedd swyddi newydd ddod ar gael, a fy annog i’n dyner pan oedd gen i ddiffyg hunanhyder. Heb gefnogaeth a chyllid CFW +, ni fyddwn wedi gallu gwneud y cwrs na dod o hyd i waith llawn amser.

“Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at her newydd ac yn gobeithio yn y pen draw y gallaf hefyd ddysgu Saesneg fel iaith dramor yn ystod hanner tymor i roi hwb i'm hincwm.”

Y Cynghorydd Wyn Thomas yw'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddysgu Gydol Oes a Sgiliau. Dywedodd: “Mae Eleanor yn dangos i ni sut gall y gefnogaeth gywir a'r cyllid gan gynllun CFW+ effeithio'n gadarnhaol ar fywydau pobl. Da iawn Eleanor. Rwyf wrth fy modd eich bod wedi gallu dod o hyd i gyflogaeth sy'n cyd-fynd â bywyd eich teulu. Pob hwyl i ti i'r dyfodol.”

Os ydych chi'n nabod rhywun a fyddai'n elwa o gynllun CFW+ Llywodraeth Cymru, cysylltwch am sgwrs drwy ffonio 01970 633422 neu anfonwch e-bost at TCC-EST@ceredigion.gov.uk

 

12/02/2024