Ar 12 Chwefror 2024, ymwelodd aelodau o Gyngor Ieuenctid Ceredigion â Senedd Cymru yng Nghaerdydd, a chyfarfod ag Elin Jones AS i drafod materion allweddol sy’n bwysig i bobl ifanc.

Fel rhan o raglen waith flynyddol Cyngor Ieuenctid Ceredigion, cafodd pobl ifanc daith addysgol o amgylch y Senedd, cyn eistedd i lawr gyda’r Llywydd i gyflwyno cyfres o gwestiynau yn canolbwyntio ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus, addysg, fêpio a diagnosis awtistiaeth.

Nod Cyngor Ieuenctid Ceredigion yw meithrin a chynnal cysylltiadau rhwng pobl ifanc a Senedd Cymru a Senedd y DU drwy Aelodau Seneddol Ceredigion, er mwyn sicrhau bod llais pobl ifanc Ceredigion yn cael ei gynrychioli ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Dywedodd Aeron Dafydd, Aelod Senedd Ieuenctid y DU dros Geredigion a disgybl Ysgol Bro Teifi: “Roedd yn gyfle gwych i gyflwyno a thrafod meysydd blaenoriaeth allweddol gydag Elin Jones yn y Senedd yn ddiweddar. Trafodwyd sawl pwnc pwysig a diddorol oedd dysgu mwy am waith Senedd Cymru a’r hyn sy’n mynd ymlaen yn y Senedd. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais, ac roedd hwn yn gyfle perffaith i wneud hynny. Hoffai Cyngor Ieuenctid Ceredigion ddiolch i’r Llywydd am drafodaeth ddiddorol a chadarnhaol ac am eu hamser yn siarad â ni. Fe wnaethon ni i gyd fwynhau’r profiad.”

Dywedodd Elin Jones AS: “Roedd yn bleser cael croesawu Cyngor Ieunectid Ceredigion i’r Senedd am daith a sgwrs. Mae wastad yn braf cael cwrdd â phobl ifanc sydd a diddordeb mewn gwleidyddiaeth a’r byd o’u cwmpas. Roedd y drafodaeth yn eang ac aeddfed – o faterion trafnidiaeth i addysg i gefnogaeth arbennig i bobol ifanc.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion, dilynwch nhw ar Facebook: Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion Youth Service; @giceredigionys ar Instagram a X (Trydar).

08/03/2024