Ar 20 Hydref 2023, etholodd Cyngor Ieuenctid Ceredigion Gadeirydd newydd ac Aelod newydd i gynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2023-24.

Penodwyd Rosa Waby, disgybl Blwyddyn 12 yn Ysgol Gyfun Penweddig, yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion a bydd yn arwain y Cyngor Ieuenctid yn 2023-24. Etholwyd Aeron Dafydd, disgybl Ysgol Bro Teifi yn Aelod Seneddol Ieuenctid y DU dros Geredigion a bydd yn cynrychioli Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn 2023-24.

Mae Rosa yn cymryd yr awenau oddi wrth cyn-Gadeirydd y Cyngor Ieuenctid, sef Ifan Meredith o Ysgol Bro Pedr, wrth iddo orffen ei dymor, gydag Aled Lewis, Ysgol Gyfun Aberaeron yn dod i ddiwedd ei gyfnod fel Aelod Seneddol Ieuenctid am 2022-23.

Mae Rosa ac Aeron eisoes wedi dechrau eu gwaith yn eu rolau newydd, a byddant yn ymgymryd â gweithgareddau amrywiol yn lleol ac yn genedlaethol yn ystod y flwyddyn. Yn ddiweddar, fe wnaethant gyfarfod â Ben Lake AS; y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion; y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau; ac Elen James, Prif Swyddog Addysg Cyngor Sir Ceredigion i drafod materion a blaenoriaethau cyfredol.

Dywedodd Gwion Bowen, Uwch Swyddog Cyfranogi Plant a Phobl Ifanc: “Hoffwn longyfarch Aeron a Rosa ar eu penodiadau diweddar fel rhan o raglen Cyngor Ieuenctid Ceredigion. Mae cyfleoedd cyffrous o’n blaenau eleni, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw. Maent eisoes yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i brosesau democrataidd pan ddaw i bobl ifanc Ceredigion. Dymunwn lwc dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod. Hoffwn hefyd ymestyn ein diolch i Ifan ac Aled sydd wedi gweithio’n ddiflino i ymgyrchu a hyrwyddo lleisiau pobl ifanc Ceredigion yn ystod eu cyfnod yn y swydd y llynedd. Maent wedi cael effaith hirdymor a dymunwn yn dda iddynt i’r dyfodol, a diolch iddynt am eu holl waith caled.”

Dywedodd Rosa Waby, Cadeirydd newydd Cyngor Ieuenctid Ceredigion: “Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Chyngor Ieuenctid Ceredigion i wneud newidiadau cadarnhaol i fywydau pobl ifanc yma yng Ngheredigion yn 2023-24. Rwy’n angerddol am nifer o faterion sy’n effeithio ar bobl ifanc ar hyn o bryd ac rwy’n teimlo y bydd fy swydd fel Cadeirydd y Cyngor Ieuenctid yn fy helpu i ddylanwadu ar feysydd polisi allweddol trwy amrywiaeth o ymgyrchoedd gan gynnwys pleidlais flynyddol ‘Rhoi dy Farn’ ac wrth weithio tuag at ddigwyddiad ‘Pawb a’i Farn’ Ceredigion yn yr haf.”

Ychwanegodd Aled Lewis, cyn ASI Ceredigion yn Senedd Ieuenctid y DU: “Mae wedi bod yn fraint cynrychioli pobl ifanc Ceredigion fel eu ASI yn 2022-23. Mae fy rôl i, ynghyd ag Ifan, wedi ymwneud yn bennaf â hyrwyddo materion sy'n bwysig i bobl ifanc ar lefel leol a chenedlaethol, gyda llunwyr polisi allweddol a'r rhai sy'n gyfrifol am benderfyniadau pwysig. Mae’n hanfodol bwysig bod pobl ifanc yn cael llwyfan i godi eu llais a chyfleoedd i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, ac roedd hwn yn gyfle gwych i ddysgu mwy am waith Aelodau Seneddol a Llywodraeth y DU.”

Wrth groesawu’r aelodau newydd, dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Llongyfarchiadau mawr i'r aelodau newydd a etholwyd. Hoffwn ddymuno'n dda iddynt ar gyfer y flwyddyn i ddod ac edrychaf ymlaen at gydweithio a chlywed eu lleisiau am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc y sir.”

Gallwch ddilyn hynt a helynt y Cyngor Ieuenctid trwy ddilyn Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion ar y cyfryngau cymdeithasol.

27/02/2024