Mae cyllideb Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer 2024-2025 wedi cael ei chymeradwyo yn ystod cyfarfod o’r Cyngor a gynhaliwyd ddydd Iau, 29 Chwefror 2024.

Fel pob Awdurdod Lleol ledled Cymru, mae Cyngor Sir Ceredigion yn parhau i wynebu pwysau ariannol difrifol, lle mae cynnal gwasanaethau’r Cyngor yn profi’n hynod heriol.

Mae cyfanswm y pwysau refeniw amcangyfrifedig y mae'r Cyngor yn ei wynebu ar gyfer 2024-2025 yn dod i tua £18m, sy'n cyfateb i ffactor chwyddiant penodol o 10% ar gyfer Ceredigion. Ar ôl caniatáu ar gyfer cynnydd o 2.9% yn y cyllid craidd gan Llywodraeth Cymru, roedd angen dod o hyd i ddiffyg o £14m yn y Gyllideb, a hynny trwy gyfuniad o ostyngiadau yn y gyllideb ac ystyriaethau o ran cynnydd yn y Dreth Gyngor.

Mae’r gyllideb ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion wedi cael ei gosod ar £193.572m. Mae hyn yn golygu cynnydd o 10.0% yn y Dreth Gyngor ar gyfer Gwasanaethau'r Cyngor Sir, gyda chynnydd pellach o 1.1% yn y Dreth Gyngor yn ofynnol i ariannu'n llawn y cynnydd o 12% yn yr Ardoll Tân a osodwyd gan Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru. Mae’r cynnydd cyfun o 11.1% yn cyfateb i gynnydd o £172.45 ar gyfer eiddo Band D.

Mae 75% o Gyllideb y Cyngor bellach yn cael ei wario ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol a Lles Gydol Oes, Ysgolion a Dysgu Gydol Oed a Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol. Ar ôl caniatáu ar gyfer costau sefydlog eraill (er enghraifft – Ardoll yr Awdurdod Tân a Chynllun Gostyngiadau y Dreth Gyngor), dim ond 14% sydd ar ôl ar gyfer holl wasanaethau eraill y Cyngor.

Dilynwch y ddolen hon i weld infograffig sy’n crynhoi ein costau ariannol pennaf: Cipolwg ar wasanaethau Ceredigion.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: “Mae hon wedi bod yn broses anodd o ran pennu’r gyllideb yn yr hyn sydd wedi bod yn setliad llai na digonol gan Lywodraeth Cymru, ac yn is na’r 3.1% a addawyd. Nid yw’r rhain yn benderfyniadau yr ydym eisiau eu gwneud, ond maent yn angenrheidiol i ddiogelu gwasanaethau rheng-flaen lle bo’n bosibl. Mae’r rhagolygon ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn wael a bydd angen i ni gynnal adolygiad sylfaenol o ddiben y Cyngor. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i lobio Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Ceredigion yn cael cyllideb deg yn y dyfodol. Rwy’n ddiolchgar am yr holl gydweithio sydd wedi digwydd i gyflwyno’r gyllideb hon, yn ogystal â’r gwaith rhwng y Cyngor a chynghorau tref a chymuned wrth iddynt ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol.”

Mae cymorth ar gael trwy ein Cynllun Budd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a gwirio a ydych yn gymwys yma: Budd-dal tai a Gostyngiad y Dreth Gyngor

Gallwch hefyd ffonio Gwasanaethau i Gwsmeriaid Clic ar 01545 570881 neu anfon e-bost i clic@ceredigion.gov.uk am help a chymorth.

 

29/02/2024