Bydd cronfa Cynnal y Cardi yn ailagor ar gyfer ail rownd o geisiadau ar 01 Chwefror 2024.

Fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i gefnogi datblygiad economaidd a busnesau drwy gydol y cyfnod heriol hwn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi, a ariennir gan Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig wedi’i yrru gan Ffyniant Bro.

Mae dwy gronfa ar gael i ymgeisio amdanynt, sef:

Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i gefnogi Datblygiad Cymunedol:

  1. Cynllun Grant Bach £1,000 - £10,000
  2. Cynllun Grant Mawr  £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Seilwaith newydd ar gyfer cymunedau a chymdogaethau, neu welliannau i seilwaith sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol
  • Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn, sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a chrwydro o’i hamgylch
  • Rhoi prawf ar ddulliau treialu ac astudiaethau dichonoldeb
  • Cymorth ar gyfer gweithgareddau lleol ym maes y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd
  • Buddsoddi yn y gwaith o feithrin capasiti a chefnogi seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol gan gynnwys cynllunio olyniaeth
  • Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael â thlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd
  • Buddsoddi mewn seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol a chynnig cymorth ar gyfer seilwaith o’r fath

Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i gefnogi busnesau Ceredigion:

  1. Grantiau busnes bach £1,000 - £10,000
  2. Grantiau datblygu busnes £10,001 - £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynny’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)

Nod y gronfa hon yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi drwy rwydweithiau lleol.

Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Gweithgarwch ym maes entrepreneuriaeth
  • Cynorthwyo datblygiadau sy’n galluogi busnesau i ddechrau a thyfu
  • Cynorthwyo i hybu arloesi a’r agenda o ran sgiliau ar gyfer busnesau bach a chanolig a busnesau newydd, er mwyn sefydlu’r amodau i greu swyddi sydd â gwerth uwch yn yr economi
  • Cynorthwyo busnesau lleol i fanteisio ar dechnoleg ddigidol
  • Cynorthwyo i atgyfnerthu gwaith datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni i fusnesau
  • Cyllid i gynorthwyo gwaith comisiynu/asesu dichonoldeb strategol perthnasol
  • Creu Canolfannau Menter er mwyn galluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet y Cyngor sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio: “Mae’n wych gweld cronfeydd cymorth Cynnal y Cardi yn ailagor ar gyfer ail rownd o geisiadau. Os ydych yn fenter gymunedol neu’n fusnes yng Ngheredigion, byddwn yn eich annog i ystyried eich opsiynau a cheisio am gymorth trwy Cynnal y Cardi. Mae’r cyfleoedd ariannu hyn yn cefnogi ein blaenoriaethau corfforaethol i hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth ynghyd â chryfhau gwytnwch ein cymunedau i ddod yn fwy cynaliadwy, gwyrdd gyda chysylltiadau da.”

I sicrhau eich bod yn gymwys, danfonwch grynodeb byr yn amlinellu eich syniadau (fformat pwynt bwled) a dadansoddiad o'r gwariant at: ce.cynnalycardi@ceredigion.gov.uk

Bydd y ffurflen gais ar gyfer Cronfa Cynnal y Cardi yn fyw ar y wefan hon Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU - Cyngor Sir Ceredigion o ddydd Iau, 01 Chwefror 2024 ymlaen.

12/01/2024