Atgoffir preswylwyr o'r newidiadau i gasgliadau gwastraff ar ddyddiau Llun gŵyl y banc.

Yn ddiweddar, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi newid pryd y bydd gwastraff yn cael ei gasglu ar ddyddiau Llun gŵyl banc. Dros Gyfnod y Pasg byddwn yn ymgeisio i ddarparu casgliadau gwastraff fel a ganlyn:

Diwrnod casglu arferol

 

Casglu ar

Dydd Gwener 29 Mawrth 2024

 

Dydd Gwener 29 Mawrth 2024

Dydd Llun 1 Ebrill 2024

Symud i

Dydd Sadwrn 30 Mawrth 2024

Gofynnir i drigolion rannu’r wybodaeth mor eang â phosib gyda chymdogion, teulu, ffrindiau a chymunedau ar draws Ceredigion a all gael eu heffeithio. Bydd y wefan yn cael ei diweddaru yn ystod yr wythnos sydd yn arwain at Ŵyl y Banc gydag unrhyw newid i’r drefn uchod: www.ceredigion.gov.uk/diweddariadaucasgliadaugwastraff

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn adolygu’n barhaus ein dull o ddarparu ein gwasanaethau gyda’r bwriad o roi’r gwasanaeth gorau posib i’r cyhoedd gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni. Byddwn yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth mor eang â phosib ac, fel rhan o Caru Ceredigion, hoffem ddiolch yn ddiffuant i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”

Safleoedd Gwastraff Cartref

Dros gyfnod y Pasg bydd oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd fel a ganlyn:

Diwrnod

Oriau agor Safleoedd Gwastraff Cartref Glanyrafon, Llambed a Chilmaenllwyd

dros gyfnod y Pasg

Dydd Gwener y Groglith

Ar gau

Dydd Sadwrn

10:00 - 15:00

Dydd Sul

10:00 - 15:00

Dydd Llun Pasg

10:00 - 15:00

Bydd dim newid i oriau agor Safle Gwastraff Cartref Rhydeinon dros gyfnod y Pasg:

Diwrnod

Oriau agor Safle Gwastraff Cartref  Rhydeinon dros gyfnod y Pasg

Dydd Gwener y Groglith

Ar gau

Dydd Sadwrn

10:00 - 17:00

Dydd Sul Pasg

10:00 - 17:00

Dydd Llun Pasg

Ar gau

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt CLIC drwy ffonio 01545 570881 neu ewch i’r wefan www.ceredigion.gov.uk

25/03/2024