Mae'n bosib y bydd trigolion yng Ngheredigion sy'n berchen ar eiddo wedi’i rentu’n breifat yn gallu helpu i adsefydlu ffoaduriaid yn y sir.

Mae'r Cyngor yn chwilio am lety i roi lloches i deuluoedd sy'n ffoi o'u cartrefi oherwydd rhyfel yn eu gwledydd genedigol, fel Syria, Affganistan ac Wcráin.

Fel pob teulu yn y Deyrnas Unedig, gall teuluoedd sydd â statws ffoaduriaid hawlio budd-daliadau i helpu gyda rhent. Mae'r Cyngor yn cadw at gyfraddau'r lwfans tai lleol i sicrhau cydraddoldeb i bob teulu sy'n chwilio am lety yng Ngheredigion.

Hyd yma, mae dros 80 o deuluoedd o Wcráin a Syria; ynghyd â nifer fach o deuluoedd o Affganistan wedi dod o hyd i gartrefi newydd yng Ngheredigion ers 2015. Mae llawer o deuluoedd wedi integreiddio’n dda ac yn ymgolli mewn digwyddiadau cymunedol ac yn mynychu gwersi Cymraeg a Saesneg a ddarperir gan Goleg Ceredigion ac Addysg Oedolion Cymru. Mae eu plant yn ymgartrefu'n gyflym ac yn cyfrannu at fywyd yr ysgol.

Mae cyllid gan y Swyddfa Gartref a Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio gan y Cyngor i helpu plant ffoaduriaid i wneud ffrindiau drwy sesiynau gymnasteg, pasys canolfannau hamdden a gwersi cerddoriaeth. Mae oedolion wedi elwa o gymorth i helpu i ddod o hyd i swyddi yng Ngheredigion. Mae'r Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid yn gweithio gyda'r cynllun Cymunedau am Waith+ i hwyluso'r daith i gyflogaeth.

Mae Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid y Cyngor yn cynnal digwyddiadau chwarterol ar gyfer teuluoedd o Wcráin, Affganistan, a Syria a'u gwesteiwyr. Gwahoddir asiantaethau cymorth lleol i'r digwyddiadau i hyrwyddo eu gwasanaethau a thrafod y cymorth sydd ar gael. Cynhaliwyd y digwyddiad diweddaraf ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Rhagfyr, a'i nod oedd hybu cysylltiadau cymdeithasol a lles.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion: "Mae Ceredigion wedi bod yn noddfa i deuluoedd sy'n ffoi rhag gwrthdaro ers 2015. Ni allwn wneud hynny heb haelioni pobl Ceredigion sydd wedi bod yn croesawi pobl i'w cymunedau. Rydym yn arbennig o ddiolchgar i landlordiaid sydd wedi cysylltu â ni gyda chynigion o lety."

Os ydych chi'n berchen ar eiddo rhent ac eisiau gwybod mwy am Raglen Adsefydlu Ffoaduriaid y Cyngor, cysylltwch â'r Tîm Adsefydlu Ffoaduriaid drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881.

20/03/2024