Rhwng 27 Ebrill a 07 Medi 2024, bydd Arddangosfa Deithiol newydd gan yr Amgueddfa Brydeinig yn cynnwys trysorau anghyffredin o gasgliad Syr Hans Sloane yn teithio i Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth.

Yn dwyn y teitl I’r rhai chwilfrydig llawn diddordeb, cafodd yr arddangosfa ei chreu ar y cyd â dwy amgueddfa bartner yn y DU a'u cymunedau lleol, gan roi cyfle i bob lleoliad ddod â phersbectif unigryw.

Gadawodd y meddyg a’r naturiaethwr Syr Hans Sloane (1660-1753) ei gasgliad o hynafiaethau, gweithiau celf, a chwilfrydeddau naturiol i’r DU ar ôl ei farwolaeth, gyda’r bwriad o’u cadw a’u bod yn bodloni ‘dymuniad y chwilfrydig.’ Aeth y casgliad hwn wedyn ymlaen i ddod yn sylfaen i'r Amgueddfa Brydeinig.

Am y tro cyntaf, bydd yr arddangosfa yn aduno detholiad o wrthrychau o gasgliad Sloane, gan gynnwys llyfrau a phrintiau, gwrthrychau diwylliannol, a hanes natur prin, y mae’r Amgueddfa Brydeinig, y Llyfrgell Brydeinig a’r Amgueddfa Hanes Natur yn gofalu amdanynt ar hyn o bryd.

Mae pob gwrthrych yn yr arddangosfa yn cynnig cipolwg unigryw ar chwilfrydedd Sloane am y byd, ac yn arddangos ehangder ac amrywiaeth ei gasgliad a gasglwyd. Mae gwrthrychau allweddol yn cynnwys:

  • Corn hela ifori cerfiedig (tua 1490–1530)
  • A Voyage to Jamaica (1725)
  • Blodau sidan wedi'u brodio (17eg ganrif)
  • Chwe ysgythriad o gregyn, Wenceslaus Hollar (tua 1645-46)

Ariannwyd casgliad Sloane yn rhannol gan elw o gaethiwed ar draws yr Iwerydd, ac mae’r arddangosfa’n wynebu’r hanes cymhleth hwn, gan ddatgelu sut a pham yr unwyd yr eitemau hyn o bob rhan o’r byd. Bydd hefyd yn archwilio straeon pobl y bu Sloane yn gweithio gydag ac yn dibynnu arnynt am eu gwybodaeth a'u sgiliau, gan gynnwys pobl frodorol a chaethweision, yn ogystal â chasglwyr, fforwyr a naturiaethwyr eraill o bob rhan o'r byd.

Mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Ceredigion a’r grŵp Voices from the Edge, sy’n cynnwys saith o ymarferwyr creadigol sy’n byw yng nghefn gwlad gorllewin Cymru, mae’r arddangosfa’n archwilio beth mae casgliad Sloane o dros 300 mlynedd yn ôl yn ei olygu heddiw. Gyda’i gilydd, a thrwy ymatebion creadigol Voices from the Edge, mae’r cydweithrediad yn ceisio deall y cysylltiadau rhwng cyfoeth a gynhyrchir o gaethiwed ar draws yr Iwerydd a’r gwrthrychau yn yr amgueddfeydd.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chymdeithas yr Amgueddfeydd Annibynnol, y cydweithrediad hwn â Voices from the Edge yw cam cyntaf Amgueddfa Ceredigion i sicrhau presenoldeb a mewnbwn llais mwyafrif byd-eang. Mae’r prosiect yn cyfrannu at ymrwymiad ehangach Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.

Mae’r ymatebion creadigol gan Voices from the Edge, sy’n cynnwys ffilm, lluniadu, a cherflunio, yn cwestiynu etifeddiaeth Sloane trwy eu profiadau byw a’u hunaniaeth eu hunain. Dyma enghreifftiau o’r ymatebion sy’n cael eu gynnwys yn yr arddangosfa:

  • Llun a llythyren o’r gyfres ‘Seed stories - Where do you really come from?’ 2023, gan Rose Thorn
  • Writing backwards – Indigo Young (2006– ) to Elizabeth Langley Rose (1660–1724) gan Indigo Young
  • Our hands, our voices, 2023, gan Déa Neile-Hopton

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r gwrthrychau yn yr arddangosfa hon yn rhoi cipolwg manwl ar y gorffennol. Mae’n bwysig bod gyda phobl Ceredigion y cyfle i archwilio’r casgliad hwn a chlywed y grŵp Voices from the Edge yn adrodd eu straeon. Mae bod yn agored ac yn dryloyw yn allweddol i gyflawni nodau Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru.”

I ddysgu mwy am y casgliadau, ewch i dudalen yr Amgueddfa Brydeinig at: www.britishmuseum.org/our-work/national/uk-touring-exhibitions-and-loans/current-tours/curious-and-interested

Am fwy o wybodaeth am yr arddangosfa, cadwch lygad ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Ceredigion. Ewch i www.facebook.com/amgueddfaceredigionmuseum ar gyfer Facebook; www.instagram.com/amgueddfa_ceredigion_museum/ ar gyfer Instagram; a https://twitter.com/CeredigionMus ar gyfer X (Trydar yn flaenorol). Mae gwybodaeth am Amgueddfa Ceredigion, ei horiau agor a mwy, ar gael yma: https://ceredigionmuseum.wales/Home

24/04/2024