Ar ddydd Llun 13 Mawrth, roedd y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru'n ymweld â Cheredigion, a bachodd ar y cyfle i gyfarfod ag Age Cymru Dyfed yn eu swyddfa yn Aberystwyth.

Bu'r Cyrnol James Phillips yn archwilio gwaith yr elusen gyda chyn-filwyr hŷn yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Rhoddodd Age Cymru Dyfed drosolwg o'r prosiectau a drefnwyd ers 2019. Nifer o'r prosiectau a drafodwyd oedd; ‘Gwerthfawrogi cyn-filwyr’, ‘Nid yw cyn-filwyr byth yn cael eu hanghofio’, ‘Cysylltiadau bywyd digidol cyn-filwyr a mynediad haws at wasanaethau’, ‘Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru’ a ‘Chyn-filwyr mewn golwg’.

Cafodd y Comisiynydd Cyn-filwr ei gyflwyno i anghenion cyn-filwyr hŷn yn ardal Dyfed. Dangoswyd Clipiau o ffilm ITV Cymru, Greatest Generation ac Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru. Roedd cyfle hefyd i drafod y digwyddiadau sydd wedi eu cynnal ers 2021; Diwrnod D-Day Cyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd yn Aberporth yn 2021 a’r Arddangosfa Brwydr Prydain RAF yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2022 a Thaith Goffa Gordon Prime yn Sir Benfro sy’n cael ei gynnal ar ddydd Sul, 19 Ebrill 2023.

Y Cynghorydd Paul Hinge yw Aelod Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion. Dywedodd:  "Diolch o galon i Age Cymru Dyfed am hwyluso'r cyfarfod hwn. Roedd yn addysgiadol iawn, yn enwedig yn dilyn cyhoeddiad y cyfrifiad yn 2021 am y niferoedd o gyn-filwyr sy’n byw yng Nghymru ac yng Ngheredigion. Roedd Age Cymru Dyfed yn gallu darparu rhagor o dystiolaeth ronynnog i gyfarfod hynod ddiddorol. Roedd yn dda cael Col James Phillips Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn bresennol ac i ni gael trafodaeth ar sawl pwnc sy'n peri pryder. Mae Age Cymru Dyfed yn gwneud gwaith rhagorol gyda'r Gymuned Cyn-filwyr ac rydym ni fel Fforwm Cyfamod y Lluoedd Arfog yn gwerthfawrogi eu parodrwydd i ymgysylltu â'r gymuned cyn-filwr a'n cynorthwyo i gyflawni anghenion y Gymuned Cyn-filwyr."

Dywedodd y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru: “Roeddwn i'n falch iawn o gael y cyfle i gyfarfod ag Age Cymru Dyfed yn Aberystwyth yn ystod fy ymweliad â Cheredigion. Croesawais y drafodaeth eang ar faterion sy'n effeithio ar gyn-filwyr hŷn a gwaith Age Cymru Dyfed i'w cefnogi nhw. Cefais fy nharo yn arbennig gan eu mentrau i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd a'u gwaith o gofnodi straeon cyn-filwyr ar gyfer Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru. Mae ein cyn-filwyr hŷn wedi rhoi cymaint yn ystod eu gwasanaeth ac mae'n braf gweld Age Cymru Dyfed ac elusennau eraill o Geredigion yn gwneud cymaint i'w cynorthwyo."

Dywedodd Simon Wright, Prif Swyddog Gweithredol Age Cymru Dyfed: "Roeddem wrth ein bodd fod Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru yn medru ymweld â swyddfa’r elusen yn Aberystwyth a chlywed sut mae'r elusen wedi gallu cefnogi cannoedd o gyn-filwyr hŷn ledled Dyfed yn ystod y pedair blynedd diwethaf. Rydym wedi cyflwyno sawl prosiect cymorth gan gynnwys digwyddiad rhagorol a chofiadwy i gyn-filwyr hŷn ac rydym bellach yn edrych ymlaen at Daith Goffa Gordon Prime ar 19 Ebrill i godi arian tuag at gofeb genedlaethol Despatch Riders, lle’r oedd Gordon fel cyn-filwr D-Day yn un ohonynt. Mae ymddiriedolwyr Age Cymru Dyfed a'r tîm cymorth i gyn-filwyr sydd newydd ehangu – dau ohonynt yn gyn-filwyr eu hunain – wedi ymrwymo i barhau i gefnogi cyn-filwyr hŷn drwy eu prosiect diweddaraf, Cyn-filwyr mewn golwg [Veterans in View]."

Hugh Morgan OBE yw Cydlynydd Cyn-filwyr ar gyfer Age Cymru Dyfed. Dywedodd: "Ers 2019 mae Age Cymru Dyfed wedi gweithredu prosiectau penodol sy'n darparu cymorth i gyn-filwyr hŷn yng Ngheredigion a ledled Dyfed. Derbyniwyd cyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog (AFCFT), Sefydliad y Cyn-filwyr a Llywodraeth Cymru i weithredu pum brosiect. Mae Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru, sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol ac sy’n cynyddu’n barhaus, o bwys arbennig. Mae’n cael ei gadw yng Nghasgliad y Werin Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac mae’n cynnwys cyfweliadau unigryw â chyn-filwyr ledled Dyfed, gan sicrhau bod eu hatgofion o wasanaeth milwrol yn cael eu clywed a’u mwynhau gan ysgolion, ymchwilwyr, haneswyr ac eraill am ddegawdau i ddod. Datblygwyd ffilm 'Greatest Generation' ar ITV Cymru yn 2022 o’r Archif Cyn-filwyr Gorllewin Cymru.

Ar hyn o bryd mae'r elusen yn gweithredu prosiect newydd o'r enw ‘Cyn-filwyr mewn golwg’ [Veterans in View] sydd wedi'i gynllunio i nodi a darparu cymorth lles i gyn-filwyr hŷn sy’n anodd cyrraedd. Ariennir ‘Cyn-filwyr mewn golwg’ gan yr AFCFT (2023-2025) ac mae’n cael ei arwain gan ddau Swyddog Lles Cyn-filwyr Age Cymru Dyfed, Neil Davies ac Owen Dobson. Mae’r ddau yn awyddus i glywed gan gyn-filwyr hŷn neu eu teuluoedd felly cysylltwch â nhw trwy’r cyfeiriadau yma: Neil.davies@agecymrudyfed.org.uk neu owen.dobson@agecymrudyfed.org.uk.”

Mae canlyniadau Cyfrifiad 2021 yn dangos bod dros draean o'r holl gyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru heddiw dros 80 oed. Yn benodol, mae dau draean o'r cannoedd o gyn-filwyr a gefnogir gan Age Cymru Dyfed yn 80+ oed. Am fwy o wybodaeth am Age Cymru Dyfed ewch i www.ageuk.org.uk/cymraeg/dyfed/

 

17/03/2023