Ymwelodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, â Cheredigion ar Ddiwrnod Chwarae Cenedlaethol ddydd Mercher 02 Awst 2023.

Croesawyd y Dirprwy Weinidog gan y Cynghorydd Catrin M S Davies ar Faes y Sgwâr yn Aberaeron lle'r oedd RAY Ceredigion yn cynnal diwrnod chwarae i blant o bob oed, gyda sefydliadau o bob rhan o Geredigion yn darparu gweithgareddau chwarae amrywiol i blant a'u teuluoedd eu mwynhau yn rhad ac am ddim.

Roedd yr ymweliad yn cynnwys y Dirprwy Weinidog a'r Cynghorydd Catrin M S Davies yn siarad â Gill Byrne o Ray Ceredigion ac ymweld â nifer o'r sefydliadau a oedd yn bresennol a chanfod y gweithgareddau amrywiol oedd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid: “Roedd yn braf iawn croesawu Julie Morgan y Dirprwy Weinidog i Geredigion unwaith eto ac yn benodol i Aberaeron. Roedd yn hyfryd gweld y plant yn gwenu, chwerthin a mwynhau'r diwrnod wrth iddyn nhw gael cyfleoedd i chwarae mewn cynifer o ffyrdd â phosibl. Mae chwarae yn allweddol i iechyd meddyliol a chorfforol plant o bob oed ac ar ran Cyngor Sir Ceredigion hoffwn ddiolch i Ray Ceredigion am drefnu'r Diwrnod Chwarae ac am ei wneud yn gwbwl gynhwysol. Diolch hefyd i bob corff a sefydliad, a staff Ceredigion Actif, oedd wedi cyfrannu at lwyddiant y dydd.”

Dywedodd Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: “Roeddwn yn hynod falch o allu dathlu Diwrnod Chwarae Cenedlaethol gyda'r plant a'r teuluoedd yn Aberaeron. Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth mawr ar chwarae a'r pwysigrwydd sydd ganddi ym mywydau plant a theuluoedd. Roedd yn wych gweld yr holl deuluoedd yn cael hwyl ac yn cymryd rhan yn y gweithgareddau chwarae. Hoffwch ddiolch i Gyngor Sir Ceredigion a'r Cynghorydd Catrin M S Davies am y croeso cynnes.” 

Roedd nifer o wasanaethau Cyngor Sir Ceredigion yn bresennol ar y diwrnod gan gynnwys y Tîm Cymorth Cyflogaeth, Dechrau'n Deg, Tîm Gofalwyr a Cheredigion Actif. Gyda'i gilydd, roeddent yn rhoi cyfle i blant gymryd rhan mewn sesiynau aml-sgiliau, gweithgareddau beiciau cydbwysedd a chwaraeon amrywiol gan gynnwys tenis, saethyddiaeth a chriced; peintio wynebau a chelf a chrefft.

08/08/2023