Cafodd ymatebion i'r ymgynghoriad ar sut i wario'r arian o werthu'r Hen Ysgol Sir yn Nhregaron eu hystyried gan Bwyllgor yr Ymddiriedolwyr Elusennau mewn cyfarfod a gynhaliwyd ddydd Iau, 29 Mehefin 2023.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 16 Mawrth a 10 Mai eleni yn gofyn am awgrymiadau ar sut i wario’r incwm o werthu'r hen Ysgol yn Nhregaron yn unol â gofynion yr elusen, sef 'hyrwyddo addysg plant cyn-oedran ysgol ac oedran ysgol yn Nhregaron'.

Derbyniwyd 25 o ymatebion a oedd yn amrywio o ddarparu cyfleusterau chwaraeon; clybiau brecwast a phrynhawn; darpariaeth feithrin; gofal dydd yn ystod gwyliau'r ysgol a theithiau addysgol; adeilad amlbwrpas ar gyfer clybiau a gweithgareddau ieuenctid lleol; canolfan ar gyfer sgiliau bywyd a rhandir; pwll nofio; adnoddau llyfrgell; cefnogaeth i glybiau lleol; ac ail-wynebu ffyrdd o fewn 6 milltir i Dregaron, a phaentio'r tai i gyd. Roedd deuddeg o'r ymatebion yn ymwneud â thema cyfleuster chwaraeon fel twrff astro, trac rhedeg, caeau 3G neu 4G.

Sefydlwyd is-grŵp o'r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau i ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Bu'r is-grŵp hwn a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o Gyngor Tref Tregaron, Ysgol Henry Richard a Chylch Meithrin Tregaron yn ystyried yr ymatebion yn ystod cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai 2023 ac argymhellodd fod y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau yn defnyddio'r arian tuag at ddatblygu cyfleusterau chwaraeon yn Nhregaron. Bydd trafodaeth bellach yn cael ei chynnal gyda Swyddogion perthnasol o Borth Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Ysgolion, ynghyd â chynrychiolwyr o'r is-grŵp mewn perthynas â chyfleoedd ychwanegol fel cyllid cyfatebol.

Dywedodd y Cynghorydd Keith Evans, Cadeirydd y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau: "Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i'r ymgynghoriad, ac yn enwedig i gynrychiolwyr y gymuned am eu hystyriaeth fanwl o'r ymatebion. Mae'r arian sy'n cael ei godi drwy werthu hen adeilad yr ysgol yn gyfle gwych i wneud cyfraniad cadarnhaol i Dregaron, a bydd hwn yn ddatblygiad hynod gyffrous i'r ardal."

Cymeradwywyd yr argymhellion gan y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

 

29/06/2023