Yn 2021, sicrhaodd Cyngor Sir Ceredigion a’i bartneriaid lleol gyllid gwerth cyfanswm o £2,830,546 ar gyfer prosiectau cymunedol drwy’r Gronfa Adfywio Cymunedol a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU.

Blaenoriaethwyd cymorth i helpu gyda phrosiectau a oedd yn canolbwyntio ar fuddsoddi ym musnesau, cymunedau, ac isadeiledd y sir, a datblygu sgiliau ei thrigolion.

Roedd mwyafrif y prosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Adfywio Cymunedol yn gallu dechrau cynnal eu rhaglenni peilot o 2022 ymlaen. Mae’r grynodeb isod, yn ogystal â’r dolen YouTube canlynol, https://youtu.be/kJz2YANC018, yn rhoi cipolwg ar rai o’r llwyddiannau a’r buddion a grëwyd o ganlyniad:

BioAccelerate:
Roedd rhaglen 2022, a gynhaliwyd gan ArloesiAber, yn agored i entrepreneuriaid yng Nghymru sy’n gweithredu yn y sectorau bwyd, economi gylchol a biotechnoleg. Dyfarnwyd cyllid i bump a gyrhaeddodd y rownd derfynol i helpu i wireddu eu syniadau arloesol, gydag un o’r busnesau newydd yn mynd ymlaen i ennill cyllid pellach i gynhyrchu profion PCR am ffracsiwn o’r gost gynhyrchu flaenorol.

Cyflymydd Cynhyrchiant ArloesiAber:
Cefnogodd y rhaglen Productivity 2 Prosperity, a gynhaliwyd gan ArloesiAber, 11 o fusnesau trwy ddarparu cymorth yn ymwneud â gweithgynhyrchu a chynhyrchiant i fentrau yng Ngheredigion. Derbyniodd pob busnes grant ariannol o £5,000, cefnogaeth benodol drwy Reolwr Cyflymydd a mynediad at gyfres o weithdai a chyflwyniadau allweddol. Cafodd cynnydd y mentrau ei siartro a’i reoli trwy Fap Cynhyrchiant a ddarparwyd gan The Innovation Partnership Limited.

Cyfres Her Launchpad y Canolbarth:
Fe wnaeth Cyfres Her Launchpad y Canolbarth gan ArloesiAber gyflawni cyfres o nodau uchelgeisiol yn ystod ei lansiad y llynedd. Roedd y cyflawniadau hyn yn cynnwys creu 14 o gyfleoedd lleoliad a swyddi i fyfyrwyr yn y rhanbarth a helpu cwmnïau newydd gyda chyllid o £30,000 i’w helpu i ddatblygu atebion newydd drwy ymchwil ac arloesedd.

Prosiect Dichonoldeb AnTir:
Mae prosiect AnTir, sef prosiect dichonoldeb, meithrin gallu, ymchwil a pheilot sy’n seiliedig ar weithredu ac sy’n cael ei redeg gan Tir Coed, yn brosiect dysgu, iechyd ac adfywio sy’n cysylltu pobl â Thir a Choed. Mae’n darparu sgiliau ymarferol ar gyfer arferion tir adfywiol, tyfu bwyd a gwytnwch, hyfforddiant achrededig a mentora a chymorth i hyfforddeion symud ymlaen i swyddi awyr agored neu wirfoddoli, a chynyddu ymwybyddiaeth o fyd natur a gwell lles.

Mae canlyniadau’r prosiect hyd yn hyn yn cynnwys pobl yn ennill sgiliau ymarferol a chymwysterau mewn garddio bywyd gwyllt, cynhyrchu bwyd organig, gwasanaethau garddio a chymorth cyntaf awyr agored, wrth adeiladu gwydnwch personol a chymunedol a gwella cynefinoedd a mannau awyr agored ar gyfer cymunedau lleol.

Prosiect Ymgysylltiad Cymunedol ac Allgymorth:
Mae’r prosiect, sy’n cael ei redeg gan y Gwasanaeth Cymorth ac Atal (Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion gynt), wedi cynyddu cyfleoedd i gynnal gweithgareddau amrywiol a helpodd i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn y sir. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau crefft a gynhaliwyd gan Arts4Wellbeing, sesiynau syrffio gan ysgol syrffio ‘walkin on water’, cyrsiau awyr agored gan Tir Coed a theithiau dydd. O ganlyniad, gwelodd y Gwasanaeth gynnydd mewn cyfeiriadau gan Iechyd, ysgolion a phartneriaid gwirfoddol eraill sy’n dangos bod y llwybrau at gymorth yn gweithio'n dda

Reverb - Area 43:
Mae Area 43 yn elusen ysbrydoledig wedi’i lleoli yn Aberteifi, sy’n darparu gwybodaeth, cymorth a hyfforddiant i bobl ifanc 11-25 oed a gwasanaethau cwnsela i’r rhai 5-30 oed. Mae Area 43 yn rhedeg caffi ieuenctid, Depo, a man cyfarfod diogel a phwrpasol o safon ar gyfer pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed. Pennir y ddarpariaeth gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc, mewn partneriaeth ag oedolion, gweithwyr proffesiynol dibynadwy, a phartneriaid cymunedol. Roedd rhai o amcanion prosiect Reverb yn cynnwys cynnig cynllun hyfforddiant a chyflogadwyedd i bobl ifanc economaidd anweithgar, yn bennaf y rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl, pryder, anableddau neu anfantais. Roedd y rhaglen yn galluogi pobl ifanc i ennill sgiliau a phrofiad ymarferol o fewn amgylchedd diogel, gyda chefnogaeth, gan wneud eu rhagolygon o fewn yr economi ehangach.

Sgiliau Newydd Dechrau Newydd:
Mae’r cynllun, a gynhaliwyd gan Antur Cymru, wedi helpu unigolion i archwilio hunangyflogaeth, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth drwy oresgyn unrhyw rwystrau gan ddefnyddio dull hyfforddi wedi’i deilwra. Roedd nodweddion y cynllun yn cynnwys gweithdai rhad ac am ddim, cyngor busnes un-wrth-un a mynediad i fannau masnachu yng nghanol trefi Ceredigion i fusnesau newydd a oedd am brofi masnach ac ennill sgiliau a phrofiad manwerthu mewn amgylchedd â chymorth. Cefnogwyd cyfanswm o 112 o fusnesau ac unigolion gan y cynllun.

Tir Glas:
Gan weithio gyda llawer o bartneriaid rhanbarthol, gweledigaeth Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ar gyfer Tir Glas yw gwneud ei champws yn Llambed yn labordy byw ar gyfer rhagoriaeth ym meysydd cynaliadwyedd a gwydnwch, gyda ffocws penodol ar fwyd lleol a phren di-garbon. Trwy gyllid y Gronfa Adfywio Cymunedol (mae ffynonellau cyllid eraill hefyd wedi’u sicrhau gan y prosiect) mae’r Brifysgol eisoes wedi creu tri chwrs academaidd newydd ac wedi trefnu 10 cwrs ymgysylltu busnes gyda llawer mwy yn cael eu datblygu.

Y Cynghorydd Clive Davies yw Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ar gyfer yr Economi ac Adfywio. Myfyriodd ar yr effaith y mae’r cyllid hwn wedi’i gael: “Mae’n gadarnhaol cydnabod bod llawer o fusnesau, cymunedau ac unigolion wedi elwa ar y cyllid Adfywio Cymunedol a dderbyniwyd yng Ngheredigion. Bydd rhai a gafodd waith, cymorth, neu arian i sefydlu busnes yn elwa ar y buddion am flynyddoedd lawer i ddod. Gall cyllid fel hwn drawsnewid bywydau er gwell a helpu i gyflawni yn erbyn blaenoriaethau lleol allweddol fel y nodir yn Strategaeth Economaidd Ceredigion 2020-2035.”

Roedd y Gronfa Adfywio Cymunedol yn rhan o becyn i helpu ardaloedd lleol i baratoi ar gyfer lansiad Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Rhanbarth Canolbarth Cymru wedi cael £42 miliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2025. Ceir rhagor o fanylion am ddyraniad Ceredigion yma:

http://www.ceredigion.gov.uk/busnes/cyllid-a-grantiau/cynllun-buddsoddi-rhanbarthol-canolbarth-cymru/ 

07/11/2023