Mae cynnig wedi cael ei gymeradwyo i ddatblygu Cynllun Tai Cymunedol yng Ngheredigion.

Ym mis Mawrth 2022, ymrwymodd Cyngor Llawn Ceredigion i gefnogi cynllun a fyddai’n helpu pobl i gwrdd â’u hanghenion tai fforddiadwy yn ei cymunedau lleol trwy greu llwybr at berchnogaeth cartref.

Mae Tai Fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol yn rhan o Strategaeth Gorfforaethol Ceredigion, y Cynllun Llesiant, y Strategaeth Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol, ac mae’r Cyngor yn neilltuo adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy.

Mae dros 4,000 o dai fforddiadwy ar gael ar draws Ceredigion yn barod. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon i gwrdd â’r galw ac mae’r eiddo presennol fel arfer wedi’u cyfyngu i’r rheiny sydd fwyaf mewn angen (rhentu cymdeithasol). Mae yna grŵp o bobl yr ydym yn eu hystyried i fod ag ‘angen canolradd’ sy’n dymuno prynu eiddo yn eu cymunedau lleol ond sy’n cael eu ‘prisio allan o’r farchnad’ oherwydd y galw cynyddol am eiddo gwledig ac argaeledd unedau fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi ac Adfywio: “Bwriad y cynllun yw sicrhau cefnogaeth hirdymor i drigolion Ceredigion i gael cartref. O ganlyniad, bydd yn cefnogi’r rheiny y mae arnynt angen tai i barhau yn eu cymunedau. Mae’r cynllun wedi’i gynllunio i atal yr aelwydydd cymwys hynny rhag cael eu prisio allan o’r farchnad, atal dirywiad gwledig a diboblogi pellach.”

Bydd rhagor o wybodaeth am sut i ymgeisio a manylion y meini prawf yn cael eu cyhoeddi unwaith bydd y broses ymgeisio wedi’i chwblhau.

06/06/2023