Mae swyddogion o Heddlu Dyfed-Powys wedi gwneud wyth arést yn dilyn nifer o warantau yng Ngheredigion a gorllewin canolbarth Lloegr.

Roedd y cyrchoedd, a ddigwyddodd fore ddydd Llun 21 Awst, yn rhan o Ymgyrch Burleigh, a oedd yn anelu i chwalu grŵp troseddu trefnedig llinellau cyffuriau y credwyd ei fod yn rhedeg nifer o linellau cyffuriau yn yr ardal.

Fel rhan o’r ymgyrch, gweithredwyd gwarantau mewn cyfeiriadau yn Aberystwyth, gyda gwarantau pellach gan swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, gyda chymorth cydweithwyr o Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloger, mewn cyfeiriadau yn ardal Birmingham.

Mae pedwar unigolyn a arestiwyd ddydd Llun wedi’u cyhuddo o gynllwynio i werthu cyffuriau Dosbarth A, ac fe’u cadwyd yn y ddalfa tan iddynt ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth heddiw (24 Awst).

Mae Akasha Smith, 23 oed, o Goedlan Tri, Penparcau, Aberystwyth, Toana Ahmad, 32 oed, o Lee Gardens, Smethwick, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Davinder Singh, 36 oed, o Huntington Road, West Bromwich, a Luqman Shukri Jarjis, 31 oed, o Wakefield Court, Wakegreen Road, Birmingham, wedi’u dal yn y ddalfa am gyfnod hwy.

Ar hyn o bryd, mae tri dyn a arestiwyd yn Aberystwyth a Northampton ddoe dal yn nalfa’r heddlu.Mae dynes o ardal Telford, a oedd hefyd wedi’i harestio ddoe, wedi’i rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.

Dywedodd y Prif Arolygydd Jonny Griffiths: “Mae Ymgyrch Burleigh wedi gweld swyddogion heddlu’n atafaelu llawer iawn o gocên a swm sylweddol o arian.

“Mae cyffuriau’n achosi niwed sylweddol i’n cymunedau, a dyna pam y mae mynd i’r afael â’r mater yn flaenoriaeth ar gyfer yr heddlu.”

Gwelodd yr ymgyrch swyddogion yn defnyddio tactegau o Ymgyrch Pester hefyd, gan ymgysylltu’n uniongyrchol â dros 300 o bobl â rhifau a oedd yn gysylltiedig â’r ffonau llinellau cyffuriau a ddefnyddiwyd gan y gwerthwyr.

Fe wnaeth hyn ganiatáu iddynt gynnig cyngor diogelu a gwneud cyfeiriadau i rwydweithiau cymorth, yn ogystal â chasglu cudd-wybodaeth werthfawr drwy ymgysylltu, sy’n helpu i dorri’r galw y mae gwerthwyr cyffuriau’n dibynnu arno yn ei dro.

Daeth yr heddlu ac asiantaethau partner, megis Bwrdd Prifysgol Hywel Dda, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, Cyngor Sir Ceredigion a’r Gwasanaeth Prawf at ei gilydd yn barod ar gyfer yr ymgyrch, gan eu galluogi i fod yn barod ar gyfer canlyniad y gwarantau.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Griffiths: “Roedd gweithio gyda phartneriaid yn elfen bwysig o’r ymgyrch hon, fel ein bod ni gyd mewn gwell sefyllfa i ymdrin â chanlyniad y gwarantau – o’r gwasanaeth prawf i’r adran dai, er mwyn cefnogi pobl i roi’r gorau i gyffuriau.”

Ychwanegodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Mae’r cyngor yn falch o fod wedi cael y cyfle i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a phartneriaid eraill ar Ymgyrch Burleigh.
“Mae defnyddio cyffuriau’n effeithio’n andwyol ar unigolion, teuluoedd a chymunedau, a bydd y cyngor yn cefnogi’r rhai yr effeithiwyd arnynt dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.”
Os ydych chi’n poeni am eich defnydd chi, neu ddefnydd rhywun arall, o gyffuriau, galwch Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed ar 0330 363 9997 am gyngor cyfrinachol, anfeirniadol, am ddim.

Os ydych chi’n cael eich camfanteisio, galwch yr heddlu ar 101 neu 999 mewn argyfwng. Fel arall, cewch alw Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800555111.

25/08/2023