Cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ar 10 Medi 2023, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn falch o gefnogi’r ymgyrch.

Nod y diwrnod yw codi rhagor o ymwybyddiaeth ledled y byd am effaith hunanladdiad gan drafod yn agored y materion sy’n atal hunanladdiadau yn y dyfodol ac arwain pobl at yr help y mae arnynt ei angen.

Bob blwyddyn mae sefydliadau a chymunedau ledled y byd yn dod ynghyd i godi ymwybyddiaeth o sut allwn greu byd lle mae llai o bobl yn marw trwy hunanladdiad.

Y thema eleni yw ‘Creu Gobaith trwy Weithredu’, sy’n ceisio grymuso pobl â hyder i fynd i’r afael â chymhlethdod ‘gobaith’.

Nododd astudiaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2022 fod 5,583 o hunanladdiadau wedi’u cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn y flwyddyn flaenorol, gyda thri chwarter ohonynt yn wrywod. O ganlyniad i natur sensitif a phersonol hunanladdiad, nid yw bob amser yn hawdd i gael trafodaethau agored am sut y gallech chi neu rywun yr ydych yn ei garu yn teimlo. Mae pob bywyd a gollir trwy hunanladdiad yn drasiedi. Ac rydym yn gwybod bod modd atal hunanladdiad, nid yw’n anochel. Ond mae dal stigma yn gysylltiedig â pheidio â bod yn iawn.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, yr Aelod Cabinet ar gyfer Llesiant Gydol Oes: “Mae modd atal hunanladdiad bob amser. Mae yna nifer o sefydliadau a all helpu – boed hynny’n wasanaethau statudol neu’n grwpiau gwirfoddol fel y Samariaid – ond yn aml y cynorthwywr pennaf yw ffrindiau, teulu neu hyd yn oed gydnabod, a hynny trwy roi cyfle i bobl sydd mewn trallod neu anobaith i siarad a chael eu clywed.

“Mae pobl sydd wedi pobl sydd wedi gwella ar ôl cyfnod o deimlo’n hunanladdol yn aml yn dweud mae’r gweithredoedd bach o gefnogaeth a charedigrwydd gan bobl oedd wedi gwneud gwahaniaeth. Mae Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn gyfle da i ni gyd fyfyrio ar hynny a gofalu am y rhai o’n cwmpas.”

Mae nifer o elusennau lleol a chenedlaethol ar gael i gefnogi pobl, gan gynnwys Tir Dewi, Mind, Huts, Hafal a DPJ Foundation.

Os ydych angen siarad â rhywun – neu os ydych yn poeni am rywun/aelod o’r teulu – ffoniwch 111 a dewis opsiwn 2 i siarad â thim iechyd meddwl y GIG. Mae’r rhif yn rhad ac am ddim i’w ffonio o linell dir neu symudol, hyd yn oed os nad oes gennych gredyd ar ôl. Gallwch hefyd ffonio’r Samariaid ar 116123.

Mae Dan 24/7 yn llinell gymorth dwyieithog ar gyfer alcohol a chyffuriau a gallwch ffonio 0808 808 2234 unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos i gael help a chymorth.

06/09/2023