Bydd Cartref Gofal yn Aberystwyth yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion erbyn mis Medi 2023, a bydd hynny’n cynnal y gwasanaethau o ansawdd uchel a ddarperir yno i breswylwyr a’u teuluoedd.

Rheolwyd Cartref Gofal Hafan y Waun gan Methodist Homes (MHA), a gysylltodd â Chyngor Sir Ceredigion yn dilyn eu penderfyniad i roi’r gorau i redeg y cartref. Ers hynny, mae gwaith wedi'i wneud gyda MHA i drafod opsiynau posibl ar gyfer y cartref gofal poblogaidd yn Aberystwyth.

Yn ystod cyfarfod Cabinet a gynhaliwyd ar 04 Gorffennaf 2023, cymeradwyodd Aelodau Cabinet Ceredigion benderfyniad i drosglwyddo Cartref Gofal Hafan y Waun i berchnogaeth y Cyngor, gyda ffocws ar sicrhau parhad o ran gweithrediadau’r cartref ar gyfer preswylwyr a staff fel ei gilydd.

Mae gan y Cyngor brydles adeilad 125 mlynedd gyda MHA ar gyfer Hafan y Waun, felly bydd y tir a’r adeilad yn dychwelyd i feddiant y Cyngor yn dilyn penderfyniad MHA i derfynu’r brydles. Blaenoriaeth MHA a Cyngor Sir Ceredigion yw sicrhau proses ddi-dor wrth gyfnewid perchnogaeth, gan darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion, teuluoedd, staff a’r gymuned ehangach.

Mae Hafan y Waun yn adeilad modern, cwbl weithredol, a adeiladwyd yn 2007, sy’n bodloni gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae ganddo 90 o ystafelloedd gwely en-suite a phedair adain, sy’n gallu bod yn hunangynhwysol, yn ogystal â gardd fawr sy’n ‘Deall Dementia’.

Bydd strategaeth ariannol yn cael ei datblygu gan y Cyngor i reoli’r risgiau posibl yn ystod y cyfnod trosiannol, a disgwylir i’r trosglwyddiad gael ei gwblhau erbyn mis Medi 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Llesiant, Gofal a Chymorth Gydol Oes: “Mae’r penderfyniad a wnaed heddiw yn gam pwysig tuag at gynnal dyfodol y Cartref Gofal ac mae’n rhoi sicrwydd i breswylwyr a’u teuluoedd. Byddai colli prif gyfleuster preswyl dementia’r sir, gyda lle i 90 o welyau, wedi golygu y byddai’n rhaid i ddefnyddwyr gwasanaeth a theuluoedd ystyried lleoliadau y tu allan i’r sir ac ymhell o’u cartrefi. Ni fyddai hynny’n dderbyniol, a thrwy’r dull hwn, gall y Cyngor sicrhau bod y Cartref Gofal yn parhau i weithredu, bod swyddi Ceredigion yn cael eu diogelu cyn belled ag y bo modd, a bod adnodd gwerthfawr yn gallu parhau i’n sir a’n cymunedau.”

Dywedodd Prif Weithredwr MHA, Sam Monaghan: “Mae’r penderfyniad gan MHA i roi’r gorau i redeg Hafan y Waun a’i drosglwyddo i berchnogaeth Cyngor Sir Ceredigion wedi’i wneud o ganlyniad i adolygiad strategol gan elusen ei wasanaethau. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda Cyngor Sir Ceredigion a’i gynrychiolwyr ac yn falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb i drosglwyddo Hafan y Waun i'r awdurdod lleol. Rydym yn drist i golli Hafan y Waun o deulu MHA ond rwy’n hyderus y bydd y cartref yn parhau i fod yn rhan fawr o gymuned Aberystwyth wrth iddo symud i berchnogaeth newydd Ceredigion.”

Mae’r penderfyniad i gynnal Hafan y Waun fel un o Gartrefi Gofal yr Awdurdod yn cefnogi Amcanion Llesiant Cyngor Sir Ceredigion i greu cymunedau gofalgar ac iach. Mae hefyd yn rhan o raglen Llesiant Gydol Oes y Cyngor.

04/07/2023