Gall teuluoedd a phreswylwyr Cartref Gofal Hafan y Waun fod yn dawel eu meddwl y bydd gwasanaethau o ansawdd uchel yn parhau yn dilyn trosglwyddo perchnogaeth y cartref yn swyddogol i Gyngor Sir Ceredigion.

Arferai Cartref Gofal Hafan y Waun gael ei reoli gan Methodist Homes (MHA), cyn iddynt benderfynu roi’r gorau i redeg y cartref yn gynnar yn 2023.

Fel cartref gofal mawr ei barch yn Aberystwyth, cymeradwyodd Aelodau Cabinet Ceredigion benderfyniad i drosglwyddo Cartref Gofal Hafan y Waun i berchnogaeth y Cyngor er mwyn sicrhau parhad o weithrediadau’r cartref ar gyfer preswylwyr a staff fel ei gilydd, a gallwn gadarnhau fod y trosglwyddo bellach wedi digwydd.

Dywedodd y Cynghorydd Alun Williams, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Gwasanaethau Llesiant, Gofal a Chymorth Gydol Oes: “Rydym wrth ein bodd bod Cartref Gofal Hafan y Waun bellach yn un o Gartrefi Gofal yr Awdurdod. Diolchwn i MHA am eu cydweithrediad gwych, gan sicrhau proses ddi-dor wrth gyfnewid perchnogaeth gan sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar breswylwyr, teuluoedd, staff a’r gymuned ehangach. Edrychwn ymlaen at gynnal y gwasanaethau pwysig a gynigir yng Nghartref Gofal Hafan y Waun – sef prif gyfleuster dementia y sir gyda lle i 90 o welyau. Roedd sicrhau dyfodol y cartref hwn yn flaenoriaeth allweddol i ni yng Ngheredigion er mwyn sicrhau y gall yr adnodd gwerthfawr barhau ar gyfer ein sir a’n cymunedau.”

Dywedodd Prif Weithredwr MHA Sam Monaghan: “Rydym wrth ein bodd i allu sicrhau dyfodol cadarnhaol ar gyfer cartref gofal Hafan y Waun, er mwyn galluogi i’r ddarpariaeth gofal o safon da i barhau ar gyfer pobl hŷn yn lleol. Hoffai MHA estyn ein diolch a’n dymuniadau gorau i breswylwyr, teuluoedd a chyd-weithwyr y cartref gofal.”

Mae Hafan y Waun yn adeilad modern cwbl weithredol, a adeiladwyd yn 2007, sy’n cwrdd â gofynion Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â’r cyfleusterau sydd ar gael. Mae ganddo 90 o ystafelloedd gwely en-suite a phedair adain, sy’n gallu bod yn hunangynhwysol. Y ogystal â gardd fawr sy’n ‘Deall Dementia’.

Mae’r trosglwyddiad perchnogaeth yng cefnogi Amcanion Llesiant Cyngor Sir Ceredigion i greu cymunedau iach a gofalgar, ac mae’n ffurfio rhan o raglen Llesiant Gydol Oes y Cyngor.

01/11/2023