Gofynnir am farn ar ymddiriedolaeth elusennol Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn ymddiriedolwr ar ymddiriedolaeth elusennol ‘Llyfrgell ac Ystafell Ddarllen Ceinewydd’ ers 1958. Mae’r ymddiriedolaeth yn berchen ar safle’r hen lyfrgell sydd wedi’i leoli yn Sgwâr Uplands, i’w ddefnyddio er budd trigolion Ceinewydd.

Mae gwasanaethau llyfrgell wedi’u darparu ar y safle ers nifer o flynyddoedd. Mae’r eiddo wedi bod yn wag ers 01 Tachwedd 2021 ar ôl i’r gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y llyfrgell, sef Llyfrgell Gymunedol Ceinewydd, symud i Neuadd Goffa Ceinewydd.

Mae Llyfrgell Gymunedol Ceinewydd a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ceredigion wedi cadarnhau nad oes ganddynt unrhyw gynlluniau i symud yn ôl i safle’r ymddiriedolaeth ac felly mae angen i’r Cyngor, fel ymddiriedolwr, ystyried sefyllfa’r ymddiriedolaeth a’i dyfodol gan nad yw safle’r ymddiriedolaeth yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd at ddibenion yr ymddiriedolaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Vaux, Aelod Lleol yr ardal ac Aelod Cabinet ar gyfer Partneriaethau, Gwasanaethau Tai, Cyfreithiol a Llywodraethu, a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym am glywed barn pobl lleol am ddyfodol yr adeilad hwn yng Ngheinewydd. Mae dibenion gwreiddiol yr ymddiriedolaeth, yn llwyr neu’n rhannol, ers iddynt gael eu pennu yn cael eu darparu’n ddigonol bellach drwy ddulliau eraill. Yn yr achos hwn, mae’r ddarpariaeth o ran y llyfrgell bellach ar gael yn Neuadd Goffa Ceinewydd. Cynigwyd mai’r diben newydd y byddai’r ymddiriedolaeth yn eu cynnig i’r Comisiwn Elusennau fyddai ‘datblygu addysg trigolion Ceinewydd’. Cyn cysylltu â’r Comisiwn Elusennau i gynnig y newid yn niben yr ymddiriedolaeth, rhaid cynnal ymgynghoriad priodol fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau terfynol. Rydym yn croesawu barn y cyhoedd, yn enwedig pobl Ceinewydd a’r cyffiniau ynglŷn â’r diben newydd arfaethedig a’r ffordd y byddai modd defnyddio safle’r ymddiriedolaeth yn y dyfodol yn unol â’r diben newydd hwnnw.”

Rhowch eich barn ar-lein: Ymgynghoriad Llyfrgell Ceinewydd; gofynnwch am gopi drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk; copi papur drwy’r post drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881. Mae copïau papur ar gael yn y llyfrgell yn Neuadd Goffa Ceinewydd a gallwch adael eich ymatebion yn y fan honno. Mae’r ffurflen ar gael mewn fformat arall ar gais.

Edrychwn ymlaen at dderbyn eich sylwadau erbyn diwedd yr ymgynghoriad ar 07 Mai 2023.

Ar ôl i’r holl ymatebion gael eu casglu, bydd y canlyniadau yn mynd gerbron y Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau er mwyn i aelodau’r Pwyllgor eu hystyried a gwneud penderfyniad.

28/02/2023