Mae’r dywarchen gyntaf wedi’i thorri ar safle’r ysgol newydd yn Nyffryn Aeron a’r gwaith adeiladu bellach ar waith.

Cynhaliwyd seremoni i nodi dechrau’r gwaith hwn ddydd Llun, 10 Gorffennaf 2023, gyda Chynghorwyr, Swyddogion, disgyblion o’r ysgolion lleol a’r contractwyr yn bresennol ar y safle ger Felin-fach.

Bydd yr ysgol ardal newydd hon yn darparu cyfleusterau a chyfarpar modern o’r radd flaenaf ar gyfer disgyblion oedran cynradd sydd ar hyn o bryd yn mynychu ysgolion Ciliau Parc, Felin-fach a Dihewyd.

Bydd yr adeilad yn addas ar gyfer 210 o ddisgyblion, gyda chapasiti ychwanegol ar gyfer darpariaeth ADY, yr Iaith Gymraeg a chyn-ysgol, ynghyd â chae chwaraeon 3G gyda goleuadau llif.

Wrth annerch y criw oedd yn bresennol ar y safle ddydd Llun, dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Bryan Davies: “Pleser yw bod ar safle’r ysgol newydd i nodi dechrau’r gwaith adeiladu trwy dorri’r dywarchen gyntaf. Dyma brosiect cyffrous i bobl ardal Dyffryn Aeron a chyfle gwych i fuddsoddi mewn addysg yng nghefn gwlad. Edrychwn ymlaen yn awr at barhau i weithio gyda’r contractwyr Wynne Construction i sicrhau cyfleusterau o’r radd flaenaf i ddisgyblion yr ardal.”

Torrwyd y dywarchen gan y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion ar gyfer Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: “Braint yw cael torri’r dywarchen gyntaf heddiw a nodi dechrau’r gwaith adeiladu ar gyfer yr ysgol newydd hon. Bydd yr ysgol ardal hon yn cyfoethogi profiad dysgu ac addysgu’r gymuned leol, ac edrychaf ymlaen at weld y gwaith yn dwyn ffrwyth.”

Mae’r adeilad wedi’i ddylunio i fodloni Safonau Rhagoriaeth BREEAM ac yn cael ei adeiladu gan gwmni Wynne Construction. Bydd yr ysgol hefyd yn adeilad Sero Net Carbon wrth iddo fanteisio ar bympiau gwres ffynhonnell aer a phaneli solar.

Bydd yr ysgol £16.3m hon yn cael ei hariannu 70% trwy Gynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

18/07/2023