Mae Theatr Felinfach yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu perfformiad Saesneg o’r sioe un-dyn Carwyn ar 10 Hydref 2023.

Mae Carwyn yn gynhyrchiad Bale and Thomas mewn cydweithrediad â Theatr Torch, Theatr Felinfach a Theatrau RCT. Fel rhan o’r cydweithrediad, bydd y criw yn ymarfer yn Theatr Felinfach ac yn agor y sioe yn y Theatr ym mis Hydref cyn mynd ar y daith ledled Cymru.

 

“Braint yw cael croesawu Bale and Thomas i Theatr Felinfach unwaith eto wrth iddynt baratoi ar gyfer taith o'r ddrama Carwyn. Roedd Carwyn James yn un o gewri Cymru, fel hyfforddwr rygbi disglair a blaengar a dyn a garai ei fro, ei iaith a'i wlad” meddai Dwynwen Lloyd Llywelyn, Pennaeth Theatr Felinfach.

Bydd y sioe un-dyn gan y dramodydd Owen Thomas yn adrodd stori bwysig bywyd Carwyn James 40 mlynedd ers ei farwolaeth gyda’r actor Simon Nehan yn dod â Carwyn yn fyw ar lwyfan. Cynllunydd y sioe yw Tegan Reg James a Ceri James yw’r cynllunydd golau. 

Dywedodd Gareth John Bale, Cyfarwyddwr Carwyn: “Pleser enfawr yw cydweithio â Theatr Felinfach ar y cynhyrchiad yma o Carwyn. Dwi di bod yn teithio i’r theatr am dros ugain mlynedd a wastad di ca’l croeso mawr yna. Dwi’n gwybod fe fydd pawb yn gweithio’n galed i sicrhau fod Carwyn yn llwyddo fel sioe a thaith. Dyw Felinfach ddim yn bell iawn o Rhydlewis – ardal oedd yn agos iawn i galon Carwyn. Mae e’n ‘neud sens felly i agor y cynhyrchiad yn y Theatr a’r ardal yma.”

Roedd Carwyn yn ddyn oedd yn addoli chwaraeon, diwylliant a gwleidyddiaeth, dyn oedd yn caru Cymru. Gwnaeth argraff arbennig ar ei wlad a’r iaith Gymraeg yn ystod ei fywyd.

Mae’r ddrama yma yn archwilio dyn a oedd yn fwy na chymeriad ym myd rygbi. Athro, sylwebydd, hyfforddwr ac ysbïwr hyd yn oed.

Am ragor o wybodaeth ac am docynnau ewch i wefan Theatr Felinfach theatrfelinfach.cymru neu cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01570 470697 neu theatrfelinfach@ceredigion.gov.uk rhwng 9:30yb a 4:30yp dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae modd hefyd ein dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol: Facebook ac YouTube drwy chwilio am Theatr Felinfach ac X (Twitter) ac Instagram drwy chwilio am @TheatrFelinfach

03/10/2023