Yng nghanol holl ddathliadau Diwrnod Owain Glyndŵr yn Ffair Elen, Llandysul ar Ddydd Sadwrn 16 Medi fe berfformiodd Theatr Fach Llandysul am y tro cyntaf.

Clwb drama ar gyfer plant ifanc 7-11 oed yw Theatr Fach Llandysul ac maent yn cwrdd bob prynhawn Gwener ar ôl ysgol yn Y Ffynnon. Yn cael ei redeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion a Plethu sef mudiad cymunedol i hybu’r celfyddydau trwy gyfrwng y Gymraeg yn Llandysul, prif nod y clwb yw rhoi cyfle i blant yr ardal ddefnyddio eu Cymraeg tu allan i’r ysgol.

Bywyd cynnar Elen sef mam Owain Glyndŵr oedd testun perfformiad y plant. Uchafbwynt y perfformiad oedd cân am Elen a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan y gantores a’r gyfansoddwraig, Lleuwen Steffan. Ysgrifennwyd y gân hon yn dilyn sesiwn syniadau rhyngddi hi â phlant y clwb.

Dywedodd Siriol Teifi, Swyddog Datblygu Cered: Menter Iaith Ceredigion ac un o arweinyddion Theatr Fach Llandysul, ei brwdfrydedd: "Daeth ein hactorion ifanc a dawnus â stori Elen yn fyw mewn modd cyfareddol.”

Mae llwyddiant perfformiad cyntaf Theatr Fach Llandysul yn tanlinellu pŵer parhaus adrodd straeon drwy’r celfyddydau, gan gysylltu gorffennol, presennol a dyfodol Llandysul.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Cered: Menter Iaith Ceredigion, ewch i’w tudalennau Facebook, X (Twitter) ac Instagram.

26/09/2023