Disgwylir gwyntoedd cryfion yr wythnos hon wrth i Storm Agnes daro mwyafrif o Gymru gan gynnwys Ceredigion.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan Rhybudd Melyn sydd mewn grym rhwng 12:00 dydd Mercher 27 Medi a 07:00 dydd Iau 28 Medi 2023.
Mae disgwyl i Storm Agnes ddod a gwyntoedd cryf ac aflonyddgar yn ystod y cyfnod hwn.
Anogir aelodau'r cyhoedd i osgoi ardaloedd arfordirol oherwydd y risg o orlifo a malurion. Dylid cymryd gofal hefyd wrth deithio.
Cewch ragor o wybodaeth ar wefan y Swyddfa Dywydd: www.metoffice.gov.uk/public/weather/warnings
Bydd unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon.
26/09/2023